Penderfynu gwarchod coeden ddadleuol yn Eryri

Coeden HarlechFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o blaid gwarchod coeden sy'n destun dadl ymhlith trigolion Harlech yng Ngwynedd.

Roedd perchennog y tir ble mae'r binwydden wyllt aeddfed yn sefyll wedi trefnu i'w thorri.

Ond fe gafodd ei hatal wedi i gymdogion gysylltu ag Awdurdod y Parc yn gwrthwynebu.

Gosodwyd gorchymyn dros dro i warchod y goeden, cyn i aelodau pwyllgor bleidleisio ar y mater mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Fe bleidleisiodd y pwyllgor cynllunio a mynediad yn unfrydol o blaid yr argymhelliad i gadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed (GCC).

Mae'r mater wedi hollti barn yn lleol, gyda rhai yn datgan cefnogaeth i'r perchennog.

Maen nhw'n dadlau bod y goeden yn amharu ar olygfeydd o Fae Ceredigion ac yn peri risg o syrthio mewn tywydd garw.

Dywedodd Dinah Pickard, sy'n berchen y tir lle safai'r binwydden, ei bod yn poeni y gallai'r goeden achosi difrod sylweddol pe bai'n syrthio.

"Mae meddwl am y posibilrwydd yma yn achosi pryder i mi ac mae'n niweidio fy iechyd meddwl," meddai.

Ffynhonnell y llun, google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai trigolion yn credu fod y goeden yn amharu ar yr olygfa o Fae Ceredigion

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Rhydian Roberts, Swyddog Coed a Choedlannau'r Awdurdod, na fyddai GCC fyth yn cael ei gymeradwyo pe bai yna unrhyw berygl i'r cyhoedd.

"Mae archwiliadau wedi eu cynnal yn ddiweddar i iechyd a chyflwr y goeden," meddai.

"Os ydy hi'n troi'n goeden beryg yn y dyfodol, neu os oes angen unrhyw waith, dydi gorchymyn cadw coed ddim yn stopio hynny.

"Mi fydd adroddiad coed annibynnol yn cael ei wneud er mwyn asesu iechyd y goeden yn y dyfodol hefyd."

Ychwanegodd Mr Roberts fod gan berchennog y tir "berffaith hawl i gysylltu â ni unrhyw bryd i ddatgan ei phryder os yw cyflwr y goeden yn newid".