Angen ystyried a yw beirniaid Gething yn 'mynd yn rhy bell'

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod pob gwleidydd yn disgwyl cael eu cwestiynu

  • Cyhoeddwyd

Dylai'r rhai sy'n beirniadu Prif Weinidog Cymru ofyn i'w hunain "a ydw i'n mynd rhy bell?", yn ôl un o weinidogion cabinet Llywodraeth Cymru.

Daw sylwadau Huw Irranca-Davies yn sgîl honiadau fod cefnogwyr Vaughan Gething wedi awgrymu mai "hiliaeth" sydd wrth wraidd yr "ymosodiadau gwleidyddol arno".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig wrth raglen BBC Politics Wales y dylai pawb sydd mewn swydd etholedig ddisgwyl "archwilio fforensig", ond ychwanegodd y dylai pobl ystyried a ydyn nhw'n "croesi'r llinell".

Fe wnaeth Pwyllgor BAME Llafur Cymru ryddhau datganiad yn dweud bod ymdriniaeth y wasg yng Nghymru o Vaughan Gething yn mynd ymhellach na'r hyn fyddai rhywun yn ei ddisgrifio fel "archwilio teg".

Ychwanegodd y pwyllgor: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o bobl a sefydliadau wedi derbyn sut y mae rhagfarn hiliol isymwybodol yn gallu effeithio ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud a'i wneud.

"Ry'n ni'n credu ein bod ni'n gweld hyn yn digwydd o'n blaenau, ac mae'n rhaid gweithredu er mwyn dod â hynny i ben."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

Dywedodd ffynonellau wrth BBC Cymru bod cefnogwyr Vaughan Gething wedi awgrymu - yn ystod cyfarfod brys o Aelodau Senedd Llafur nos Wener - fod yna "gymhellion hiliol" wrth wraidd yr ymosodiadau arno.

Ond mynnodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru nad oedd Mr Gething wedi gwneud sylwadau o'r fath ei hun.

Mae Mr Gething - y person du cyntaf i arwain llywodraeth yn Ewrop - wedi bod dan bwysau ar ôl derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y defnydd o iaith yn "hynod bwysig"

Ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd y newyddiadurwr Nation.Cymru, Martin Shipton, a wnaeth adrodd ar y ffrae roddion gyntaf fod hyn yn ymdrech i "achub swydd Mr Gething".

Ychwanegodd: "Yn y fath yma o amgylchiadau, mae angen dwyn unigolion i gyfrif, ac mae awgrymu bod yna gymhelliad hiliol y tu ôl i hynny yn dod â rhywbeth i mewn i'r drafodaeth sy'n gwbl amherthnasol, a hynny heb dystiolaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd Mr Gething ar gael i wneud sylw.

'Mater o onestrwydd a thryloywder'

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, er nad oes ganddo amheuaeth fod Mr Gething wedi profi hiliaeth yn ei fywyd, mae hi'n bwysig gwneud hi'n gwbl glir "nad ydyn nhw'n credu am eiliad bod yr archwilio gen i a fy nghydweithwyr o'r Prif Weinidog wedi bod yn unrhywbeth ond ymdrech i archwilio ei weithredoedd a'i grebwyll - a dim byd o gwbl i'w wneud â lliw croen unrhyw un".

"Ry'n ni'n trin ein gwaith a'n cyfrifoldebau fel seneddwyr fel rhywbeth difrifol iawn... ac mae'r defnydd o iaith, yn hynod bwysig."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae hyn yn ymwneud â hyder y bobl yn y Prif Weinidog a'i grebwyll.

"Mae hyn am y rhoddion - sydd yn fater o onestrwydd, crebwyll a thryloywder," meddai.

Fe ychwanegodd Mr Davies y byddai trafodaethau ynglŷn â chynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog yn parhau, ond nad oedd hi'n ymarferol cynnal pleidlais o'r fath yr wythnos nesaf am wahanol resymau.