Pleidlais diffyg hyder yn y Prif Weinidog yn 'debygol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n "debygol" y bydd y gwrthbleidiau yn cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder i geisio gorfodi ymddiswyddiad y Prif Weinidog, meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.
Daeth sylwadau Andrew RT Davies wedi i Vaughan Gething ddiswyddo'r Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ddydd Iau.
Mae'r Prif Weinidog yn honni ei bod wedi rhannu negeseuon testun â'r cyfryngau, ond mae Ms Blythyn yn gwadu hyn.
Mae aelod y Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, wedi cael ei phenodi yn ei lle.
Daw sylwadau Mr Davies yn dilyn misoedd heriol i Lafur Cymru dros roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething.
Dywedodd Mr Davies y bydd ei blaid "yn cael sgyrsiau gyda phleidiau eraill" ym Mae Caerdydd i weld lefel y gefnogaeth ar gyfer cynnig o ddiffyg hyder.
Fe wnaeth Mr Gething ddiswyddo Ms Blythyn ar ôl i stori, a gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol gan Nation.Cymru, ddatgelu bod arweinydd Llafur Cymru wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o gyfnod y pandemig.
Wedi iddi gael ei diswyddo, dywedodd Ms Blythyn "na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, rhyddhau dim".
Ar yr un diwrnod daeth i'r amlwg y bydd Mr Gething yn rhoi £31,000 i'r blaid Lafur o gronfeydd ei ymgyrch, ar ôl gwario'r rhan fwyaf o'r £250,000 a roddwyd iddo - gan gynnwys £200,000 gan gwmni sy'n eiddo i ddyn sydd wedi'i gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Dywedodd Mr Davies wrth BBC Radio Wales ddydd Gwener fod y prif weinidog yn dangos "anallu i ddarparu'r atebion i gwestiynau am y rhoddion, am y negeseuon ac am y diswyddiad nawr".
Mae angen i Mr Gething gyflwyno tystiolaeth i gefnogi diswyddiad Ms Blythyn, meddai'r AS Ceidwadol, "fel mater o frys, adfer hyder yn y llywodraeth a bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni dros bobl Cymru".
“Os na all o ateb y cwestiynau yma a chyflwyno hynny, yna'n amlwg mae angen iddo fynd," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n debygol y byddai'r cynnig o ddiffyg hyder yn cael ei gyflwyno, ac yna bydd gan aelodau'r gallu i fynegi eu hyder, neu ddiffyg hyder, yn Vaughan Gething."
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd16 Mai
Pan ofynnwyd iddo am y diswyddiad, ac os oedd ei lywodraeth wedi hollti, dywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad gyda ITV Cymru: "Mae angen i weinidogion allu ymddiried yn ei gilydd, i rannu gwybodaeth yn rhydd ac yn blwmp ac yn blaen.
“Mae fy nhîm o weinidogion yn unedig ynglŷn â realiti ble rydyn ni a beth rydyn ni wedi gorfod ei wneud, a’r ffaith bod yna flaenoriaethau i bob un ohonom wrth wneud y pethau sy’n bwysig i bobl Cymru.”
Does dim disgwyl i unrhyw gynnig o ddiffyg hyder gael ei gyflwyno am rai wythnosau oherwydd materion gweithdrefnol a logistaidd.
Mae gan Lafur 30 o’r 60 aelod yn siambr y Senedd, sy’n golygu y byddai angen i aelod Llafur ymatal neu bleidleisio gyda’r gwrthbleidiau er mwyn i bleidlais o ddiffyg hyder basio.