Cyflwr y GIG yn 'dristwch' i un o'r babanod cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae un o fabanod cyntaf y Gwasanaeth Iechyd wedi mynegi pryderon am ei ddyfodol.
Cafodd Ifora Owen o Dy’n y Groes yn Sir Conwy ei geni ar y diwrnod y cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu 75 mlynedd yn ôl.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru i nodi’r achlysur, mae’n dweud ei bod hi’n “dristwch” gweld y gwasanaeth o dan straen ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen i’r gwasanaeth newid i fod yn “gynaliadwy”.
Cafodd Ifora Owen ei geni gartref ar fferm y teulu yn Nyffryn Conwy ar 5 Gorffennaf 1948.
“Dwi’n cofio Mam yn d’eud hanes y diwrnod ges i ngeni”, medd Mrs Owen.
“Mi ddaeth y meddyg teulu i’r fferm ac ar ôl imi gyrraedd y byd Mam a Dad yn gofyn ‘Faint sydd arnom ni i chi?’
“A’r meddyg yn ateb ‘O na, mae o am ddim o heddiw ymlaen’ a dwi’m yn meddwl bod Mam a Dad druan yn coelio!”
Swllt a chwech
“Dwi wedi edrych wedyn ac mi fuasai’n costio swllt a chwech mewn hen bres - rhyw saith geiniog heddiw.
“Mi fuasai swllt a chwech yn rhoi dipyn go lew o fwyd. Digon o fara a digon o farjarîn i deulu o bedwar neu bump am fwy nag wythnos.
“Felly roedd swllt a chwech yn dipyn o arian ar y pryd. Ac yna, na, doedd ‘na ddim cost o gwbl.”
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
Aeth Ifora ymlaen i fagu teulu a dilyn gyrfa fel prifathrawes yn Nyffryn Conwy.
Mae’n dweud na fu rhaid iddi ddefnyddio llawer ar y gwasanaeth iechyd, ond bod y gofal wedi bod “yna bob tro”.
“Mae’n destun tristwch mawr sut mae pethau’n mynd rŵan. Mae’r gwasanaeth deintyddol wedi mwy neu lai diflannu yn dydi?
“Dydy o ddim yn wasanaeth am ddim, dim mwy, ac mae’n gwneud ei chi feddwl bod y gwasanaeth iechyd yn mynd yr un ffordd.”
“Pan fyddwn ni’n ei golli o - a’i golli byddwn ni’n wneud os na ‘den ni’n ofalus iawn - wedyn mi fyddwn ni’n gweld yr angen ohono fo.
“Mae pobl yn dweud ‘Mae o am ddim.’ Wel, dydy o ddim am ddim - mae pawb wedi talu dros eu hoes gweithio.
“Ond ‘dan ni wedi cael y fantais hefyd sawl gwaith drosodd â chymharu â be’ ‘dan ni wedi ei dalu i mewn.”
'Ni allwn barhau'
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu galw “digynsail” am ei wasanaethau ac yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Ni allwn fforddio i barhau fel yr ydym.”
“Rwy’n credu’n gryf bod pob un ohonom yn fodlon ymladd i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal i fod y system gynaliadwy rydym ei hangen a’i heisiau ar gyfer y dyfodol, sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.
“Bydd angen i bawb chwarae eu rhan i’n helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon fel y gall y bobl hynny sydd â’r angen mwyaf am ein gwasanaethau gael mynediad at yr hyn y maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen, yn agos at eu cartref.”
Sawl newid, medd un o fabanod olaf yr hen drefn
Ag yntau eisoes wedi dathlu ei ben-blwydd yn 75 eleni, mae Geraint Davies yn disgrifio'i hun fel "un o'r babanod olaf bron" i gael eu geni yn yr hen Ysbyty Treherbert "dan y system breifat".
Fel cyn-fferyllydd a fu hefyd yn cynrychioli'r Rhondda dros Blaid Cymru yn nhymor cyntaf yr hen Gynulliad Cenedlaethol, mae wedi gweld sawl newid o fewn y GIG dros y blynyddoedd.
Mae'n cofio "paratoi moddion ac eli" ar ddechrau ei yrfa yn y fferyllfa "ond ma' hwnna wedi diflannu'n gyfan gwbl [erbyn hyn] - ni nawr yn prynu popeth mewn".
Mae cyfrifiaduron hefyd wedi "trawsnewid y gwaith".
Disgrifiodd ar raglen Dros Frecwast sut yr oedd yn arfer ysgrifennu labeli'r holl feddyginiaeth gyda llaw.
"O'n i ffili roi enw cyffur ar y label, dim ond 'y tabledi','y capsules', y moddion' a fi ddim yn gw'bod pam oeddan nhw'n gwneud hynny - cadw popeth yn ddirgelwch? Fi ddim yn gw'bod - o'dd e'n od iawn.
"Mae cofnodion gyda ni nawr o bob presgripsiwn sy'n mynd allan... ma' hynny'n sefyllfa lawer mwy diogel i'r cleifion."
Cymru oedd gwlad cyntaf y DU i gyflwyno polisi o beidio codi tâl ar gleifion am bresgripsiynau.
Mae Geraint Davies yn cofio "ca'l pobl yn dod i mewn, yn brin o arian ac yn gofyn, os maen nhw'n ca'l rhestr o eitemau, 'Pr'un yw'n un pwysig?'
"Chi'n clywed am y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau pryd mae mwy o bobl yn mynd yn fethdalwr oherwydd iechyd nag unrhyw beth arall.
"Mae'n rhaid i ni werthfawrogi'r gwasanaeth y'n ni'n ei gael ar hyn o bryd.
"Mae'n gallu gwella a dwi'n gobeithio yn y dyfodol bydd pobl yn gweithio mwy gyda'i gilydd - fferyllwyr, optegwyr, meddygon teulu - dros y claf.
"Beth y'n ni mo'yn yn y pen draw yw'r canlyniad gorau i'r claf."
Newid arall i'w groesawu yw'r ffaith bod fferyllwyr erbyn hyn yn gallu rhoi cyngor i gleifion a rhagnodi presgripsiynau eu hunain.
"Dwi'n gw'bod am enghreiffitau o fferyllwyr sy'n cael cannoedd o bobl bob mis, sy'n dod i'r fferyllfa yn lle'r mynd i'r meddyg teulu a ma' hwnna'n help i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol ble maen nhw'n gallu arbenigo ar leddfu mwy o broblemau."