Cwpl wedi 'rhedeg am eu bywydau' ar ôl i le tân ffrwydro a'u llosgi

AngelaFfynhonnell y llun, Nick Palit
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddioddefodd Angela Palit losgiadau i'w wyneb a'i dwylo yn y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl o'r de wedi dioddef llosgiadau ar ôl i le tân ffrwydro ac achosi difrod enfawr i'w cartref.

Mae cyn-ohebydd BBC Cymru Nick Palit, a'i wraig Angela, wedi bod yn disgrifio sut y bu'n rhaid iddyn nhw redeg am eu bywydau wedi i'w cartref droi'n "belen dân oren" yn y digwyddiad.

Dywedodd Angela, 59, ei bod wedi cael ei thaflu ar draws y gegin gan y ffrwydrad, a'i bod yn credu ei bod ar fin marw wrth i'w gwallt fynd ar dân a llosgi ei wyneb.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cael cais am sylw ar y tân a thanau bioethanol.

DifrodFfynhonnell y llun, Nick Palit
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tân wedi achosi difrod enfawr i'r tŷ ym Marina Penarth

Gan siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd y cwpl fod Angela wedi cyrraedd adref i'w cartref ym Marina Penarth, Bro Morgannwg, ar 16 Medi, a gofyn i Nick roi'r tân ymlaen.

Wedi iddo wneud hynny, fe aeth y tân allan o reolaeth, cyn i'r lle tân ffrwydro.

"Ro'n i'n ceisio rhoi e mas gyda lliain gwlyb, ac fe wnaeth e ffrwydro tra ro'n i'n cerdded tuag ato," meddai Angela.

"Fe wnaeth e daro fi ar hyd y gegin, a'r peth nesa' ro'n i ar y llawr.

"O'dd fy ngwallt i ar dân, o'dd fy wyneb yn llosgi. O'n i wir yn meddwl mod i'n mynd i farw.

"Wedyn fe wnaeth Nick lusgo fi mas a dweud 'mae'n rhaid i ni gael o'ma'."

Angela a NickFfynhonnell y llun, Nick Palit
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Angela a Nick redeg am eu bywydau wedi'r digwyddiad yr wythnos ddiwethaf

Dywedodd Nick fod cyflymder y peth wedi achosi sioc enfawr iddyn nhw.

Disgrifiodd y lle tân fel un bioethanol, sydd ddim angen corn simnai. Yn hytrach, mae hylif yn cael ei roi ar liain cotwm er mwyn creu "effaith cannwyll".

"Fe wnaethon ni gynnau fe fel ry'n ni wastad wedi gwneud," meddai Nick.

"Doedden ni ddim wedi defnyddio fe am tua pum mis, mae'n siŵr, oherwydd ei bod yn haf.

"Fe wnaeth e gynnau, ond yna roedd mwg du yn dod oddi arno, oedd yn anarferol, ac fe aeth y larwm mwg bron yn syth."

'Gweld hi'n hedfan trwy'r awyr'

Dywedodd Nick ei fod wedi troi'r tân i ffwrdd a mynd i agor drysau'r patio er mwyn cael y mwg allan o'r tŷ, pan glywodd Angela yn sgrechian.

"Nes i droi rownd a'i gweld hi'n hedfan trwy'r awyr, ac wedyn roedd hi ar y llawr, a nes i afael ynddi.

Dywedodd eu bod wedi rhedeg trwy giât yr ardd wrth iddo ffonio 999.

"Tra roedden ni ar y ffôn gyda'r gwasanaethau brys, o fewn llai na munud roedd llawr isaf y tŷ wedi'i lyncu gan belen dân oren."

Braich NickFfynhonnell y llun, Nick Palit
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nick ddioddef llosgiadau i'w fraich yn y digwyddiad

Cafodd y cwpl eu trin gan barafeddygon cyn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac yna ymlaen i'r uned llosgiadau arbenigol yn Ysbyty Treforys Abertawe.

Fe ddioddefodd Angela losgiadau i'w wyneb a'i dwylo, tra bod Nick wedi llosgi ei fraich.

Beiciau wedi'u dwyn hefyd

I ychwanegu at hynny oll, roedd gan y cwpl bedwar beic trydan gwerth cannoedd o bunnoedd yr oedden nhw wedi cloi gyda'i gilydd y tu allan i'r tŷ wedi'r digwyddiad.

Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o'r ysbyty, roedd y beiciau wedi diflannu.

"Mae hi'n amlwg i unrhyw un sydd wedi gyrru heibio bod y tŷ wedi cael tân ynddo, a bod neb yno fwy na thebyg," meddai Nick.

"Y camerâu diogelwch, y goleuadau, yr holl bethau fyddai yno fel arfer i'w diogelu nhw, doedden nhw ddim yno."

Yn hwyrach fe wnaeth ganfod bod y beiciau mewn eiddo ddwy filltir (3.2km) i ffwrdd.

Trefnodd gyfarfod â swyddogion heddlu yn yr adeilad, a oedd yn floc bach o fflatiau chwe chartref.

"Ond oherwydd nad oeddem yn gwybod ym mha un y gallai y beiciau fod, doedd plismyn ddim yn barod i guro drysau," meddai.

Mae tri beic trydan ac un tandem ar goll.

Mae gan un yswiriant, ac mae Nick yn gobeithio y gall hawlio gwerth y lleill ar yswirianty tŷ.

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.