Plac porffor i ymgyrchydd heddwch o Geredigion

Annie Hughes Griffiths yn arddangos deiseb yn 1924Ffynhonnell y llun, Welsh Centre for International Affairs
Disgrifiad o’r llun,

Ms Hughes Griffiths (ail o'r dde) yn dal deiseb heddwch y tu allan i’r Tŷ Gwyn ym 1924

  • Cyhoeddwyd

Mae plac porffor wedi ei ddadorchuddio yn Aberystwyth i nodi cyfraniad arbennig ymgyrchydd heddwch a arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau bron i ganrif yn ôl.

Fe wnaeth Annie Hughes Griffiths gyflwyno deiseb gyda llofnodion bron i 400,000 o fenywod Cymru yn Washington ym 1924, yn galw am heddwch wedi erchyllterau’r rhyfel byd cyntaf.

Dywedodd yr Aelod Llafur o'r Senedd, Jane Hutt bod Ms Hughes Griffiths yn "arloeswraig ym mudiad heddwch y menywod yng Nghymru" a'i bod hi "ond yn iawn iddi gael ei chofio am ei hymdrechion rhyfeddol".

Cafodd y plac ei osod ar wal ei chyn gartref yn Aberystwyth, ble mae ei ŵyr yn dal yn byw.

Ganwyd Ms Hughes Griffiths yn Llangeitho, Ceredigion yn 1872.

Cafodd addysg breifat a bu’n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1892-1894.

Fe ddechreuodd weithio ar y ddeiseb tra'n gadeirydd ar Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, cyn dod yn llywydd ar Bwyllgor y Menywod.

Ar ôl casglu llofnodion bron i 400,000 o fenywod, fe arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau ym 1924 i gyflwyno deiseb heddwch i'r Tŷ Gwyn.

Y gred yw bod yr ymgyrch wedi rhoi ysgogiad newydd i fudiadau heddwch menywod yn yr Unol Daleithiau.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac ar wal cyn gartref Ms Hughes Griffiths yn Aberystwyth

Ms Hughes Griffiths yw'r 14eg fenyw i gael ei hanrhydeddu gan Placiau Porffor Cymru, mudiad sy'n ceisio gwella cydnabyddiaeth o gyfraniad arbennig menywod o Gymru.

Mae Sue Essex, cadeirydd y mudiad, yn dweud ei bod yn "falch" o allu nodi cyfraniad Ms Hughes Griffiths.

"Ry'n ni’n meddwl bod Annie wir yn ymgorffori ysbryd Placiau Porffor Cymru," meddai.

"Mae’r ffaith ei bod hi’n gallu arwain ar brosiect a oedd yn cyffwrdd llawer iawn o fenywod ledled Cymru a’u hysbrydoli i arwyddo deiseb o blaid heddwch yn arbennig iawn, ond yn fwy felly mewn oes heb y math o gyfathrebu sydd gennym ni heddiw."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Rolant Elis (ŵyr) a Meg Elis (wyres) gydag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Elizabeth Treasure, Eluned Morgan AS ac Aelodau Pwyllgor Placiau Porffor Cymru

Roedd y seremoni ddydd Gwener yn rhan o raglen Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

‘Hawlio Heddwch’ yw thema’r ŵyl eleni, wedi’i hysbrydoli gan ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24.  

Mae cyfrol ddwyieithog o'r enw 'Yr Apêl' yn cael ei lansio yn y Llyfrgell Genedlaethol hefyd, ble mae'r ddeiseb bellach yn cael ei harddangos.

Dywedodd Mererid Hopwood, un o olygyddion y gyfrol: "Mae’n arbennig o addas ein bod yn dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu ymdrechion Annie a’r miloedd o fenywod eraill a ddaeth ynghyd ganrif yn ôl i wneud apêl mor uchelgeisiol am heddwch byd-eang."