Bragdy Brains yn datgelu i'r cwmni bron â mynd i'r wal

  • Cyhoeddwyd
Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 6, Brains Advert, Ydych chi'n cofio rhai o'r hysbysebion yma ar hyd y blynyddoedd?

Mae pennaeth bragdy Brains yn dweud iddo ddod â’r cwmni yn ôl o’r dibyn, wedi i ddyledion a’r pandemig bron ag anfon y cwmni i’r wal.

Treuliodd Jon Bridge dair blynedd yn ceisio ad-dalu benthyciadau a gweddnewid y busnes.

Dim ond yn y misoedd diwethaf mae’r bragdy wedi llwyddo i dalu’r dyledion i gyd.

Mae’r ailstrwythuro wedi lleihau'r cwmni'n sylweddol, wrth fynd o gyflogi 1,600 i 30 o staff.

Cafodd y cyfrifoldeb am redeg bron pob un o’r 250 o dafarndai Brains ei drosglwyddo i gwmni Marston’s, er bod cwsmeriaid yn dal i weld arwyddion Brains uwchben y drws ac yn gweld y cwrw enwog wrth y bar.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan y cwmni ddyledion o £76.4m - y rhan fwyaf ohonynt yn bodoli cyn y pandemig

Roedd dadlwytho’r tafarndai yn rhan o ymgais Jon Bridge i ddelio â degau o filiynau o bunnoedd o ddyled, a phandemig wnaeth gau'r busnes dros nos.

Dywedodd fod Brains bellach mewn “lle da iawn, iawn” ar ôl blynyddoedd anodd a pheryglus.

“Roedd yn heriol iawn am gyfnod hir,” meddai Mr Bridge.

“Yn syml iawn, roedd gan Brains ormod o ddyled, ac yna pan darodd y pandemig roedd yn her wirioneddol oherwydd diffyg cyfle i weithredu’r busnes.

“Felly pan gaeodd y tafarndai, roedd yn broblem ddifrifol i ni.”

Roedd gan y cwmni ddyledion o £76.4m - y rhan fwyaf ohonynt yn bodoli cyn y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pennaeth bragdy Brains, Jon Bridge, yn teimlo eu bod nawr mewn "lle gwirioneddol dda"

Bu Mr Bridge yn gweithio gyda nifer o fanciau i ailstrwythuro a chytuno i ad-dalu’r ddyled i gyd, gyda’r prif weithredwr ond yn teimlo’n hyderus am gyflwr ariannol y cwmni erbyn haf eleni.

Yn ogystal â chytuno ar gytundeb gyda Marston’s i redeg ei dafarndai, sicrhaodd Brains fuddion aelodau ei gynllun pensiwn hefyd trwy gytundeb arall.

“Rydyn ni wedi llwyddo i lywio trwy'r amseroedd heriol hynny, ac nid ni yn unig - y diwydiant diodydd a lletygarwch cyfan - a wynebodd heriau tebyg.

“Ond rydyn ni wedi llwyddo i lunio cynllun rydyn ni wedi’i weithredu dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Mae hynny rhoi ni mewn lle gwirioneddol dda ar gyfer y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Brains
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brains wedi bod yn bragu cwrw yng Nghaerdydd ers 1882

Mae Brains yn golygu llawer mwy na diod yn unig i’r Cymry.

Ers 1882 mae’r cwrw wedi’i fragu yng Nghaerdydd, a disgynyddion Samuel Arthur Brain yw cyfranddalwyr y cwmni o hyd.

Mae prifddinas Cymru wedi'i haddurno â sloganau Brains ar bontydd rheilffyrdd, tra bod simnai eiconig y bragdy ar lannau Afon Taf yn parhau i’w addurno ag enw Brains.

Am gyfnod llwyddiannus i’r tîm rygbi cenedlaethol, Brains oedd noddwr y crysau coch, gyda chic Gavin Henson a enillodd y Gamp Lawn yn 2005 yn dangos enw’r cwrw Cymreig i wylwyr teledu ledled y byd.

“Ges i fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd,” meddai Jon Bridge.

“Felly ges i fy magu yn arogli’r hopys a’r brag wrth i mi gerdded drwy ganol dinas Caerdydd.”

Fel nifer o bobl, mae'n cofio blas cyntaf y cwrw y mae bellach yn gyfrifol am fragu bob dydd.

“Rwy’n cofio fy mheint cyntaf o Brains gyda fy nhad, ac rwy'n meddwl bod yna lawer o bobl ledled de Cymru a thu hwnt sydd â'r cysylltiad emosiynol hwnnw â Brains.

"Mae'n un o'r brandiau hynny sy'n mynd o dan eich croen chi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi bragu diodydd eraill er mwyn apelio at yfwyr newydd

Byddai rhai yn sibrwd nad yw peint o Brains SA – neu “Skull Attack” - at ddant pawb.

Mae’r cwmni’n gwybod hynny hefyd, ac wedi rhyddhau diodydd eraill i geisio apelio at yfwyr newydd.

Mae lager Bayside yn un ymdrech, tra bod Brains hefyd wedi cynhyrchu Barry Island IPA - cwrw golau y mae'n gobeithio all ddenu’r rhan o’r boblogaeth na fydd byth yn dewis peint o SA wrth y bar.

Ond roedd Mr Bridge am roi sicrwydd i yfwyr y byddai cwrw gwreiddiol Brains yn parhau.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’n yfwyr ffyddlon sydd wedi dewis y cwrw ers degawdau, felly does dim cynlluniau i newid y cwrw hynny,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yr her i Brains, heb dafarndai, fydd sicrhau fod y cwrw dal ar werth wrth y bar

I fragwr nad yw’n rhedeg ei dafarndai ei hun bellach, rhan o her Brains fydd sicrhau bod ei gwrw ar gael wrth y bar.

Bydd rhan o’r cynllun i adfer y cwmni yn canolbwyntio ar lwybrau newydd i’r farchnad, ac maent wedi buddsoddi mewn fan ddosbarthu i sicrhau cysylltiad uniongyrchol rhwng y bragdy yng Nghaerdydd a thafarndai sydd am weini ei gwrw.

Mae Brains hefyd wedi agor siop ar-lein i fanteisio ar anfon cwrw i gartrefi, a'r farchnad o Gymry ar wasgar.

“Dwi’n meddwl ein bod ni’n fwy ystwyth, rydyn ni’n deneuach nag oedden ni’n arfer bod,” meddai Mr Bridge.

“Mae wir yn teimlo fel ein bod ni wedi troi cornel, ac mae’n ymwneud â phositifrwydd am y dyfodol.

“Rwy’n hoffi bod yn weledigaethol, rwy’n hoffi gallu symud ymlaen yn hytrach nag edrych yn ôl,” meddai Mr Bridge.

Pynciau cysylltiedig