Rhybudd i beidio nofio yn y môr ar draeth yn Llandudno

Mae Traeth Pen Morfa ar ochr orllewinol tref Llanduno
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyhoedd yn cael eu cynghori i beidio â nofio neu badlo yn y môr ar draeth yn Llandudno.
Mae samplau safon dŵr wedi canfod lefelau anniogel o facteria ar Draeth Pen Morfa, allai wneud pobl yn sâl.
Bydd samplau pellach yn cael eu cymryd yr wythnos nesaf, ond mae'n debygol na fydd y dŵr yn cael ei gyhoeddi'n ddiogel tan ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn ymchwilio, ond dydyn nhw ddim yn credu mai nhw sy'n gyfrifol am y llygredd.
Cafodd arwyddion eu gosod yn yr ardal ddydd Llun yn cynghori pobl i beidio â mynd i'r dŵr ar ochr orllewinol Llandudno.
Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod sampl diweddar o'r dŵr ger Traeth Pen Morfa wedi canfod bod lefelau bacteria o'r enw Intestinal Enterococci tu hwnt i'r lefelau diogel.
Daw'r bacteria o wastraff dynol neu anifeiliaid, ac mae'n gallu achosi i bobl fynd yn sâl.
Yn ôl Dŵr Cymru, dyw ffynhonnell y llygredd ddim yn eglur.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.