Arestio dyn ar ôl i fachgen 11 oed gael ei daro gan gar

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Gelli Avenue yn Rhisga tua 15:30 ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fachgen 11 oed gael ei daro gan gar.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Kia Ceed coch a'r bachgen ar Gelli Avenue yn Rhisga, Sir Caerffili tua 15:30 ddydd Iau.
Cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.
Cafodd gyrrwr y Kia, dyn 45 oed o Risga, ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi anaf trwy yrru'n ddiofal neu'n anystyriol.
Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau barhau.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.