'Dylai CNC golli ei rôl fel rheoleiddwr dŵr'

Llun o bibell yn rhyddhau carthionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Ed Davey o'r farn bod CNC wedi "methu" mynd i’r afael â llygredd carthion

  • Cyhoeddwyd

Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) golli ei rôl fel rheoleiddwr y diwydiant dŵr am nad yw wedi llwyddo i fynd i'r afael ag achosion o lygredd carthion, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Dywedodd Syr Ed Davey bod angen llunio "system wahanol" er mwyn creu rheoleiddwr sy'n "fwy pwerus".

Mae’r diwydiant dŵr yng Nghymru yn cael ei reoli gan CNC - un o asiantaethau Llywodraeth Cymru - ac Ofwat, sy'n reoleiddiwr economaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod tîm CNC yn angerddol am eu gwaith, a bod y corff yn adolygu eu gweithgareddau er mwyn blaenoriaethu eu swyddogaethau craidd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru cyn cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton, dywedodd Syr Ed fod angen i'r rheoleiddiwr fod yn llymach.

“Yn Lloegr, ry'n ni'n galw am gael awdurdod dwr glân - cael gwared ar Ofwat fel bod mwy o bwerau yn dod gan yr asiantaeth amgylcheddol i’r rheoleiddiwr newydd yma, a fyddai’n derbyn cyllideb fwy er mwyn sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn atebol.

“Mae’r system yng Nghymru ychydig yn wahanol, ond heb os, mae angen rheoleiddiwr cryfach.

“Nid yw’r llywodraeth yng Nghaerdydd wedi gwneud yn ddigon da - mae’n rhaid i’r rheoleiddiwr fod yn fwy llym.

"Mae’n rhaid i ni gael y buddsoddiad i fynd i'r afael â’r carthion”.

Ychwanegodd Syr Ed fod prinder adnoddau i sicrhau bod y rheolau’n cael eu dilyn yn “broblem fawr”.

Disgrifiad o’r llun,

"Heb os, mae angen rheoleiddiwr cryfach," meddai Syr Ed Davey

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r amgylchedd yn fater wedi’i ddatganoli ond rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ystyried sut allwn ni gryfhau rheoleiddio’r sector dŵr, a datblygu ffordd o weithio sy’n cwrdd â disgwyliadau pobl yng Nghymru ac yn parchu datganoli.

“Mae tîm CNC yn angerddol dros eu gwaith wrth geisio sicrhau fod Cymru yn gofalu am, ac yn gwella ein hamgylchedd a’n adnoddau naturiol wrth i ni oll geisio mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

“Mae CNC yn adolygu eu holl weithgareddau yn drwyadl ac yn cydnabod mai cyrraedd eu prif amcanion a dyletswyddau statudol yw’r flaenoriaeth.”

Mae Dŵr Cymru, sy’n gwasanaethu mwyafrif Cymru a rhannau o orllewin Lloegr, yn gorff nid-er-elw.

Mae Syr Ed wedi canmol hynny, gan ychwanegu fod gan y drefn honno “botensial i fod yn fodel llawer gwell na’r diwydiant dŵr sydd wedi ei breifateiddio yn Lloegr”.

Etholiadau'r Senedd yn 'gyfle gwych'

Mewn rhan arall o’r cyfweliad, dywedodd Syr Ed fod ganddo bryderon am y newidiadau arfaethedig i'r ffiniau etholaethol a'r system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026.

“Mae’n rhaid sicrhau fod y ffiniau wir yn cynrychioli cymunedau, ac mae rhai wedi awgrymu nad ydy'n nhw'n teimlo bod y ffiniau newydd yn gwneud hynny,” meddai.

Er bod y system bleidleisio newydd yn “welliant”, meddai, gallai system lle mae pobl yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag ymgeiswyr unigol wneud i bobl feddwl “nad yw rhai ymgeiswyr mor atebol i’r ardal leol”.

Ychwanegodd y byddai’n well gan y Democratiaid Rhyddfrydol weld system wahanol yn cael ei defnyddio.

Awgrymodd Syr Ed fod gan ei blaid “gyfle gwych” i wneud yn dda yn etholiadau nesaf y Senedd, a'i fod yn gobeithio gweld aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu hethol ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan y blaid un aelod yn y Senedd, un aelod o Gymru yn San Steffan ac mae’r blaid yn arwain Cyngor Powys mewn clymblaid gyda Llafur.