Carcharu aelodau dau deulu dros ffrwgwd siop cebab

Plediodd Firat Sayak, Murat Aksoy, Mehmet Aksoy a Yagmur Sayak yn euog i achosi anhrefn treisgar yng nghanol Casnewydd ym mis Awst
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau dau deulu Twrcaidd a ymosododd ar ei gilydd gydag offer siop cebab, polion metel a ffon gerdded mewn digwyddiad yng Nghasnewydd wedi cael dedfrydau o garchar.
Fe gafodd yr ymosodwyr, sydd rhwng 17 a 52 oed, anafiadau slaes yn dilyn ffrwgwd tu allan i siop cebab yng nghanol y ddinas.
Roedd y digwyddiad, meddai'r barnwr, "yn achos gwarthus o drais ac anhrefn".
Fe wylodd rhai o'r diffynyddion yn y doc a pherthnasau yn yr oriel gyhoeddus, wrth iddyn nhw gael eu dedfrydu.

Fe ddigwyddodd y ffrwgwd ar Ffordd Commercial yng nghanol Casnewydd
Dywedodd y Barnwr Richard Kember mai gwraidd y ffrwgwd oedd "rhyw fath o anghydfod" rhwng aelodau teuluol ehangach, yn hytrach na ffrae'n ymwneud â chystadleuaeth ymhlith siopau cebab dros fusnes.
Ond dywedodd bod "dim cyfiawnhad o gwbl am y math o drais a golygfeydd cythryblus a ddigwyddodd y prynhawn hwnnw".
Ychwanegodd fod y teuluoedd wedi cymodi ers hynny, gyda chefnogaeth y cymunedau Twrcaidd a Chwrdaidd ehangach, a bod hynny'n ffactor lliniarol wrth ddedfrydu.

Y tri diffynnydd arall a gafodd eu dedfrydu ddydd Iau oedd Savas Sayak, Mazhar Aksoy a Burak Aksoy
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe blediodd saith dyn a bachgen 17 oed yn euog i gyhuddiadau o ddefnyddio neu fygwth trais anghyfreithlon ym mhresenoldeb eraill, gan achosi i bobl oedd yno ofni am eu diogelwch.
Fe gafodd pump o'r dynion - Mehmet Aksoy, 52, Murat Aksoy, 28, Mazhar Aksoy 40, Savas Sayak, 34, Fırat Sayak, 45 - ddedfrydau o 24 mis o garchar yr un.
Fe gafodd y ddau ddyn arall - Burak Aksoy, 25 a Yagmur Sayak, 43 - ddedfrydau o 12 mis o garchar yr un, wedi eu gohirio am 21 mis, a bydd yn rhaid iddyn nhw gwblhau 150 awr o waith cymdeithasol di-dâl.
Fa gafodd achos y bachgen 17 oed, sy'n aros yn ddi-enw oherwydd ei oedran, ei gyfeirio i lys ieuenctid ar gyfer ei ddedfrydu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi
