Wyth yn cyfaddef anhrefn dreisgar mewn 'anghydfod rhwng dau deulu'

Llun o Ffordd Commercial
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dynion eu gweld yn ymladd ar Ffordd Commercial yng nghanol dinas Casnewydd ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae saith dyn a pherson ifanc wedi pledio'n euog i achosi anhrefn dreisgar yng Nghasnewydd.

Fe gyfaddefodd y diffynyddion, sydd rhwng 17 a 52 oed ac o Gasnewydd, y cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd gwrandawiad blaenorol fod "achosion treisgar ar raddfa fawr" wedi bod yn dilyn "anghydfod rhwng dau deulu".

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Commercial ar ôl i grŵp o ddynion gael eu gweld yn ymladd ar y stryd yn ardal Pilgwenlli yn y ddinas ar 1 Awst.

Bu'n rhaid i bedwar dyn fynd i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad.

O'r chwith i'r dde Mazhar, Burak, Murat a Mehmet AksoyFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde Mazhar, Burak, Murat a Mehmet Aksoy y tu allan i Lys y Goron Caerdydd

Fe wnaeth Mehmet Aksoy, 52, Mazhar Aksoy, 40, Murat Aksoy, 28, Burak Aksoy, 25, Savas Sayak, 33, Yagmur Sayak, 42, a Firat Sayak, 45 a bachgen 17 oed na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, gyfaddef eu bod wedi defnyddio neu fygwth trais anghyfreithlon gydag eraill yn bresennol, gan beri i'r rhai oedd yn bresennol ofni am eu diogelwch.

Cafodd yr holl ddiffynyddion gymorth gan gyfieithydd yn y llys.

Llun o Yagmur Sayak (chwith) a Savas Sayak Ffynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yagmur Sayak (chwith) a Savas Sayak ymhlith y dynion a blediodd yn euog

Fe gafodd y diffynyddion sy'n oedolion eu cadw yn y ddalfa, a chafodd y diffynnydd ifanc ei ryddhau ar fechnïaeth, ond mae wedi cael gorchymyn i beidio â mynd i Ffordd Commercial.

Mae disgwyl iddyn nhw i gyd gael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig