Cadarnhau achos o TB mewn ysgol yng Nghasnewydd

Ysgol John FrostFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Does dim awgrym bod yr unigolyn wedi dal yr haint yn Ysgol John Frost

  • Cyhoeddwyd

Mae achos o'r diciâu (TB) wedi'i gadarnhau mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag ysgol yng Nghasnewydd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) y bydd pob disgybl ac athro a gafodd gysylltiad â'r unigolyn yn ysgol uwchradd John Frost yn cael cynnig sgrinio ar gyfer TB.

Yn ôl ICC does dim i "awgrymu bod yr achos wedi dal TB yn yr ysgol", ond bod yr unigolyn wedi mynychu'r ysgol heb wybod bod ganddynt yr haint.

Dim ond un achos o TB sydd wedi'i gadarnhau.

'Risg i'r cyhoedd yn isel iawn'

Dywedodd James Adamson o ICC: "Mae hon y broses arferol, ac os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig.

"Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.

"Yn yr achos hwn, ac i gyfyngu ar ledaeniad posibl yr haint, rydym yn trin yr holl ddisgyblion ac athrawon a allai fod wedi cael cyswllt â'r unigolyn fel cysylltiadau personol agos.

"Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn.

"Fodd bynnag, rydym yn annog rhieni, disgyblion ac aelodau o staff i fod yn ymwybodol o'r symptomau."