Cwmni ariannol byd-enwog yn noddi clwb pêl-droed ar Ynys Môn

- Cyhoeddwyd
Mae clwb pêl-droed, sy'n chwarae ym mhumed haen Cymru yn Ynys Môn, wedi sicrhau nawdd gan gwmni ariannol byd-enwog.
Enw'r lle hiraf yng Nghymru ydy Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ac mae'r enw wedi gwneud y pentref ger y Fenai yn enwog.
Ond rŵan, diolch i gytundeb newydd, bydd crysau clwb pêl-droed Llanfairpwll yn dangos logo cwmni Mastercard.
Mae'r clwb pêl-droed lleol wedi sicrhau nawdd am y tair blynedd nesaf a dywedodd Samantha Jones-Smith, cadeirydd clwb Llanfairpwll, fod Mastercard yn "buddsoddi yn ein dyfodol, ein cyfleusterau, ac yn bwysicaf oll, ein cefnogwyr".
Dywedodd Mastercard eu bod "wrth ein boddau yn cael cydweithio â Chlwb Pêl-droed Llanfairpwll ac ymuno â'r gymuned bêl-droed anhygoel hon".

"Mae o'n ffantastig," medd Aled Llyr Davies am y nawdd
Cafodd Aled Llyr Davies ei fagu yn Llanfairpwll ac mae hefyd yn is-gapten ar y clwb pel-droed - gan chwarae iddynt ers pum mlynedd.
"Mae'r pentref i gyd wrth eu bodd bod rhywbeth felma wedi digwydd, mae o'n ffantastig," meddai.
"'Swn i feddwl na'r enw hir sy'n denu lot o'r cwmnia' mawr."
"Da ni bob tro isho curo pob gêm a gobeithio bod reit fyny yna ar y tabl 'leni a gobeithio mynd am y cwpana' fyd," ychwanegodd Aled.

Dywedodd Mastercard eu bod "wrth ein boddau yn cael cydweithio â Chlwb Pêl-droed Llanfairpwll"
Er mwyn nodi'r gytundeb, cafodd digwyddiad Gŵyl y Banc ei gynnal cyn gêm gartref gyntaf y clwb y tymor hwn, yn erbyn Llangoed ar Awst 25.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r pentref bach gyda'r enw hir sicrhau noddwr o bwys - tan yn ddiweddar logo La Liga - prif gynghrair Sbaen, oedd ar flaen y crysau.
Wrth i'r llen godi ar dymor pêl-droed arall, y gobaith yn Llanfair – fel pob clwb arall - ydy y bydd ychydig o help allanol yn gwneud byd o wahaniaeth wrth lygadu dyrchafiad.

Mae Clwb Llanfairpwll yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Orllewin Cymru.
Dywedodd Mastercard fod dyddiau y gemau yn "arddangosfa wirioneddol o angerdd a balchder".
"Felly, mae Maes Eilian yn teimlo fel y lle cywir i ddatgelu'r citiau newydd a dathlu gyda'r cefnogwyr a'r chwaraewyr - sy'n gwneud y clwb hwn mor arbennig," meddai'r llefarydd.
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.