LaLiga i noddi crysau Clwb Pêl-droed Llanfairpwll
- Cyhoeddwyd
'Pawb di ecseitio'n lân!' LaLiga i noddi crysau Llanfair PG
Mae un o gynghreiriau pêl-droed enwocaf y byd - LaLiga yn Sbaen - wedi cytuno i noddi crysau un o dimau pumed haen y gamp yng Nghymru.
Fe fydd chwaraewyr Clwb Pêl-droed Llanfairpwll yn gwisgo'r crysau wrth wynebu tîm Tref Caergybi ddydd Sadwrn yn Adran Un Gorllewin Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru.

Mae arwydd croeso newydd wedi cael ei greu ble mae logo newydd LaLiga'n cymryd lle bob llythyren 'll' yn enw'r pentref
Dan y bartneriaeth blwyddyn o hyd, fe fydd logo La Liga, sy'n cynnwys clybiau Barcelona a Real Madrid, ar grysau tîm y pentref sy'n enwog am hyd ei enw llawn ar gyfer gemau cartref ac oddi cartref.
"Mae'r bartneriaeth newydd yma efo LaLiga yn dod â phroffesiynoldeb pellach i ein tîm," dywedodd y rheolwr Gwyndaf Hughes.
"Dwi'n gw'bod na allai'r hogia' aros i wisgo'r cit newydd gyda balchder o ddydd Sadwrn yma, a thrwy'r tymor."
Cyffro - a sioc
Mae'r bartneriaeth yn un "rhagorol", medd cadeirydd CPD Llanfairpwll, Samantha Jones-Smith.
"Nid yn unig ydi hyn y cydweithredu mwyaf cyffrous y mae'r clwb wedi ei gael erioed, fe fydd yn caniatáu i ni wella ar ac oddi ar y cae.
"Mae sicrhau partner blaen crys o'r lefel yma yn hanfodol bwysig, a gyda hanes hir LaLiga o ragoriaeth pêl-droed, mae gyda ni bartner gwych gyda ni ar ein taith."

Barcelona yw pencampwr presennol LaLiga
"Oedd o'n bach o sioc i ni gyd," meddai ysgrifennydd y clwb, Hannah Thomas, wrth ddisgrifio ar raglen Dros Frecwast sut y cysylltodd gwmni marchnata â thudalen Facebook y clwb yn dweud bod Cleient yn Sbaen â diddordeb ynddyn nhw.
Roedd yna fwy o sioc fyth, meddai, o ddeall taw LaLiga oedd y cleient, ond mae pawb sy'n gysylltiedig â'r clwb "wedi ecseitio'n lân".
"Gan bod nhw'n rebrandio LaLiga efo'r logo newydd - y dau L - oeddan nhw isio 'neud cysylltiad efo'r tîm efo'r mwya' o Ls yn eu enw nhw," dywedodd.
"Mae'n gyfle amazing i ni fatha clwb bach ar Ynys Môn."
'Hwb ychwanegol'
Eglurodd eu bod eisoes wedi cwrdd â chyfarwyddwr pêl-droed LaLiga, a bod y nawdd eisoes wedi talu am offer newydd, gan gynnwys rhwydi, peli, crysau hyfforddi i'r chwaraewyr a siacedi ar gyfer aelodau'r pwyllgor.
Mae'r clwb hefyd yn trafod y posibilrwydd o gael hawl i werthu'r crysau newydd.
Bydd yr holl offer newydd yn cael ei ddefnyddio brynhawn Sadwrn yma wrth i Lanfairpwll groesawu Caergybi i Faes Eilian.
Dywedodd prif sgoriwr y clwb, Marquis Holland: "Bydd chwarae gyda LaLiga ar ein crysau yn sicr yn rhoi hwb ychwanegol y tymor yma.
"'Dan ni yn barod yn gwylio mwy o bêl-droed Sbaen y tymor yma ac yn edrych ymlaen at ddysgu pethau gan chwaraewyr fel Lewandowski, Griezmann a Bellingham."