Angen dathlu gwallau iaith siaradwyr Cymraeg, medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae angen dathlu gwallau ieithyddol siaradwyr Cymraeg, yn ôl Aelod o'r Senedd.
Dywedodd Delyth Jewell AS ei bod am weld y Gymraeg yn "iaith fyw, rhywbeth sydd yn cael ei siarad bob dydd, yn ei holl gymhlethdodau, ei gwahaniaethau ac, ie, ei gwallau ysblennydd".
Ychwanegodd Heledd Fychan AS ei bod yn "casáu" clywed pobl yn cywiro Cymraeg dysgwyr.
Daeth y sylwadau yn y Senedd wrth drafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg.
Cyfeiriodd y Comisiynydd Efa Gruffudd Jones at ymateb grwpiau ffocws, gan ddweud bod "llawer o’r profiadau negyddol yn achosion pan oedd eraill yn cywiro defnydd pobl o’r Gymraeg".
Ychwanegodd: "Profodd siaradwyr Cymraeg o bob gallu hyn, yn enwedig dysgwyr, pobl ifanc a’r rhai nad oedd y Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.
"Roedd sylwadau am eu sgiliau yn y Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg yn debygol o gael effaith ar hyder y rhai yn y grwpiau ffocws.
"Roedd hyn yn golygu y bydden nhw yn llai tebygol o ddefnyddio’r iaith yn y dyfodol."
Yn siambr y Senedd dywedodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, bod "y Gymraeg yn perthyn i bawb", ac o ran cywiro iaith dysgwyr, meddai, "dwi'n casáu hynny'n llwyr".
Ymhelaethodd: "Wrth gwrs, mae yna rôl bwysig i gael Cymraeg cywir ar adegau - wrth gwrs bod yna - a rydyn ni eisiau sicrhau bod yna safon o'r Gymraeg.
"Ond i unrhyw un sy'n ceisio efo'r Gymraeg, does yna ddim byd gwaeth na chael eu cywiro - dwi'n gwybod hynny.
"Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl yn deall bod cywiro yn gallu bod yn niweidiol ar yr adegau hynny pan mae pobl yn ceisio'r Gymraeg sydd ganddyn nhw."
Dywedodd Delyth Jewell, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: "Dydyn ni ddim eisiau i bobl allu medru'r iaith yn unig; ry' ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn iaith fyw, rhywbeth sydd yn cael ei siarad bob dydd, yn ei holl gymhlethdodau, ei gwahaniaethau ac, ie, ei gwallau ysblennydd.
"Efallai na fydd pobl yn hoffi'r ffaith fy mod i'n dweud hwnna, ond pan mae pobl yn gwneud gwallau, mae hwnna'n dangos eu bod nhw'n siarad Cymraeg a bod yr iaith yn un sydd yn fyw.
"Mae pobl yn dysgu'r iaith. Ry' ni i gyd yn dal i ddysgu'r Gymraeg bob dydd ry' ni'n ei siarad hi. Dysgwyr ydym ni oll.
"Yr hyder, efallai, ydy'r her fwyaf cymhleth ac ystyfnig, ond hefyd yr her fydd fwyaf pwysig i'w orchfygu.
"Cawsom iaith, mae angen inni ei cheisio hi."
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd5 Hydref
- Cyhoeddwyd20 Hydref
Mae'r adroddiad blynyddol, dolen allanol yn adrodd bod 23% o ymatebwyr arolwg barn yn credu bod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wedi cynyddu dros y flwyddyn flaenorol.
Mae enghreifftiau yn yr adroddiad lle mae cynnydd wedi bod mewn gwasanaethau Cymraeg - mwy o ddeunydd Cymraeg ar dudalennau gwefannau y sector iechyd, a mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg wrth ymgynghori ar bolisïau o fewn awdurdodau lleol.
Hefyd, mae byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau pum mlynedd i gynnig mwy o wasanaethau clinigol yn y Gymraeg.
'Siomedig'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: "Roeddwn yn siomedig i weld rhai cwmnïau preifat yn penderfynu stopio cynnig gwasanaethau Cymraeg.
"Ond dwi’n ddiolchgar i’r comisiynydd am fod mor barod i atgoffa cyrff pa mor bwysig yw cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.
"Mae’n dda gweld bod cefnogaeth benodol ar gael i’r sectorau yma, trwy ganllawiau a sesiynau hyfforddi, er mwyn eu hannog i ddarparu a datblygu gwasanaethau Cymraeg.
"Wrth edrych ymlaen, mae’r sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol. Mae’r comisiynydd, fel nifer o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod rhannu’r baich hwn, ac fe wnaeth pob comisiynydd gael toriad o 5% ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol."