Y ganran sy'n gallu'r Gymraeg ar ei hisaf ers wyth mlynedd

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall

  • Cyhoeddwyd

Mae canran y bobl tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg ar ei lefel isaf ers wyth mlynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

27.8% yw'r amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn hyd at 30 Mehefin 2024 - tua 1.4% yn is na’r flwyddyn flaenorol, yn ôl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Mae’r ffigwr diweddaraf yn cyfateb i oddeutu 854,400 o bobl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'n nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg."

Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.5%, 239,600) nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi:

  • Yng Ngwynedd (93,000), Sir Gaerfyrddin (92,700) a Chaerdydd (80,600) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (9,500) a Merthyr Tudful (11,700) y mae’r niferoedd isaf.

  • Yng Ngwynedd (77.7%) ac Ynys Môn (61.9%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (13.9%) a Rhondda Cynon Taf (15.4%) y mae’r canrannau isaf.

Adroddodd 14.2% (435,800) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.6% (173,300) yn wythnosol a 6.4% (196,600) yn llai aml.

Dywedodd 1.6% (48,200) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.2% yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd 32.4% (997,000) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.7% (759,500) ddarllen yn Gymraeg a 22.3% (686,200) ysgrifennu’n Gymraeg.

'Dylid dehongli’r gostyngiad gyda gofal'

Dywed y llywodraeth fod y gostyngiad yn y ganran o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg yn "arwyddocaol yn ystadegol, ond dylid dehongli’r gostyngiad gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y ddau gyfnod".

Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, a chynhaliwyd yr holl gyfweliadau dros y ffôn.

Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023 sy’n golygu fod y data diweddaraf yn seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau dros y ffôn a wyneb-yn-wyneb.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 oedd 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.