Prop Cymru Leon Brown yn ymddeol yn 28 oed oherwydd anaf

Leon Brown Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Brown ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad 'nôl yn 2017

  • Cyhoeddwyd

Mae prop Cymru a'r Dreigiau, Leon Brown wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar unwaith oherwydd anaf i'w wddf.

Fe wnaeth Brown, 28, chwarae 24 o gemau rhyngwladol i Gymru ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2017.

Gêm Cymru yn erbyn Yr Alban fis Chwefror 2024 yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad oedd ei ymddangosiad olaf dros ei wlad.

Mae'r prop pen tynn wedi dioddef o anafiadau i'w wddf yn y blynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad dim ond tair gwaith y mae wedi chwarae i'r Dreigiau hyd yma y tymor hwn.

'Amser gwrando ar fy ngwddf'

Wrth siarad am ei benderfyniad i ymddeol, dywedodd fod "popeth da yn dirwyn i ben ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy ngyrfa, er ei fod yn fyrrach na'r hyn yr oeddwn wedi'i obeithio, dwi'n gwneud hynny gyda chymaint o atgofion ac yn difaru dim".

"Dwi wastad wedi credu bod popeth yn digwydd am reswm ac weithiau dyw pethau ddim fod i ddigwydd.

"Er bod gweddill fy nghorff yn teimlo'n barod i barhau â'r gamp, mae'n stori wahanol i fy ngwddf.

"Yn dilyn tair triniaeth yn ystod y tri thymor diwethaf, mae'n amser i mi wrando ar fy ngwddf a rhoi'r gorau iddi."