Siop 'eiconig' JT Morgan Abertawe i’w throi’n galeri

artist impression o JT Morgan NewyddFfynhonnell y llun, icreate
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o hen siop JT Morgan ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i ailagor adeilad "eiconig" yng nghanol dinas Abertawe yn "gyffrous iawn" yn ôl rhai sy’n byw yn yr ardal.

Mae disgwyl i’r gwaith o drawsnewid hen siop JT Morgan ddechrau yn yr haf.

Y gobaith yw bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel cartref i oriel gelf a chaffi gan gwmni Elysium.

Yn ôl y cwmni a Chyngor Abertawe, mae’n newyddion "arbennig" i sector y celfyddydau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad wedi bod ar gau ers 2008

Fe gaeodd siop JT Morgan ei drysau yn 2008 ar ôl 60 mlynedd.

Y siop oedd yr hynaf o’i math yng Nghymru, ac roedd yn gwerthu pob math o eitemau gwahanol; dillad, nwyddau i’r cartref, carpedi a gemwaith.

Nawr, dan gynlluniau newydd, bydd tri o’r lloriau’n cael eu defnyddio i arddangos celf, gyda chaffi a hwb addysgol ar y llawr gwaelod.

'Mor bwysig cadw pethe fel yna'

Mae Hannah Harries yn gweithio i Elysium ac yn dweud bod y datblygiad yn un cadarnhaol i’r ddinas.

“Mae fe’n grêt achos mae gymaint o adeiladau rownd Abertawe 'di cael eu gadael a wedyn maen nhw’n cwympo i lawr.

“Ti’n gwylio bod dim byd yn mynd mewn yna a dim byd yn cael ei wneud gyda nhw.

“Holl beth Elysium yw cymryd adeiladau sydd wedi cael eu gadael a gwneud nhw'n rhywle lle mae pobl yn gallu dod mewn a wedyn chi’n gallu cael clientele sydd wedi bod yna pan oedden nhw’n ifanc, a mae 'na memories yno, mae 'na straeon.

“Mae yna bobl sydd wedi cael teuluoedd yn dod mewn. Ma' fe mor bwysig cadw pethe fel yna yn lle gadael nhw i fynd.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hannah Harris o Elysium, nod y cwmni yw ail-atgyfodi adeiladau sydd wedi'u gadael i fynd â'i ben iddo

Yn ôl Hannah, fe fydd “rhywbeth i bawb” yna.

“Bydd bar, caffi, oriel. Bydd ‘na rhywle saff ar gyfer pobl sydd efo anghenion gwahanol.

“Bydd stiwdios lan stâr. Ni’n gobeithio bydd dosbarthiadau er mwyn neud gwersi.

“A hefyd mwy o le er mwyn 'neud pethau er mwyn cwrdd â llawer iawn mwy o bobl sydd ddim jyst yn gwneud celf a chrefft.”

Ffynhonnell y llun, icreate
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o oriel gelf newydd Elysium

Un arlunydd sy’n gobeithio arddangos ei waith yn yr oriel newydd yw Euros Rowlands.

”O'n i wedi clywed sibrydion ers misoedd nawr, ond pryd gafodd e ei gyhoeddi oeddwn i’n rili, rili cyffrous achos fi’n cofio mynd i JT Morgans yn blentyn gyda fy mam-gu," meddai.

“Mae’r elfen o atgofion a mynd pan oeddwn i’n fach, mae hwnna’n rili gyffrous.

"Mae hwnna’n rili ddiddorol o ran gweithio mewn gofod ble oedd gymaint o atgofion gyda chi ohono fe."

'Cymaint o gyfleoedd'

Yn ôl Euros, fe fydd yr oriel newydd yn help i hybu’r celfyddydau yn Abertawe.

“Ar hyn o bryd mae’r stiwdios ar wahanol safleoedd, ac wedyn yn amlwg mae’r oriel gyda ni fan hyn, ond dwi’n credu pan fydd popeth gyda’i gilydd, bydd e’n fwy cymdeithasol.

“Bydd pawb yn eu spaces bach eu hunain, ond hefyd jyst y statws i’r adeilad sydd o fewn Abertawe, a bo ni’n cymryd hwnna a bod gymaint o gyfleoedd yn gallu dod mas o hwnna."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop adnabyddus JT Morgan yn denu pobl o bell i siopa am nwyddau

Mae Heulwen Morgan yn byw yng Nghlydach ac yn cofio ymweld â JT Morgans yn aml iawn pan roedd yn ifanc.

“Roedd byti 150 yn gweithio ‘na, ac roedd pedwar llawr, ac o' chi’n gallu prynu unrhywbeth, o ddillad babi i garpedi.

“Roedd pobl yn dod o bobman i’r siop. O Aberystwyth, Abergwaun, Sir Benfro. Oedden nhw i gyd efo’r cardiau cost, a bydde nhw’n dod am y dydd.

"Siopa yn y bore, wedyn mynd â’r invoice i’r packing department, mas i ginio a wedyn dod nôl a siopa am y prynhawn, a wedyn mynd mewn i’r ceir ac adre.

“Roedden nhw’n dod ddwywaith y flwyddyn efallai o’r pellter yna. Dyna oedd y lle i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heulwen Morgan yn cofio'r ciws fyddai tu allan y siop pan fyddai sêl ymlaen!

Mae Heulwen yn cofio’r adeg pryd gaewyd y siop hefyd.

“Roedd e’n drist iawn. Oedd e wedi bod gyda JT, Olwen ei wraig a wedi ‘ny oedd dau frawd wedi cymryd drosto - ond doedd e ddim yr un peth.

"Oedd rhyw deimlad hyfryd pryd o'dd e’n JT Morgan.

“Fi’n licio meddwl am JT y ffordd o'dd e.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cyngor Abertawe, bydd y cynllun yn dod ag adeilad gwag adnabyddus yn ôl i ddefnydd ac yn hybu'r celfyddydau yn y ddinas

Amcangyfrif o gost y prosiect yw £3.4m.

Mae’r cwmni eisoes wedi derbyn buddsoddiad gan gorff Celfyddydau Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros fuddsoddi, adfywio a thwristiaeth: “Bydd yr hyn sy’n cael ei gynllunio yn dod ag adeilad gwag adnabyddus yng nghanol y ddinas yn ôl i ddefnydd, gan helpu i hybu’r celfyddydau tra hefyd yn creu mwy o ymwelwyr a bywiogrwydd er budd masnachwyr canol y ddinas.

“Mae cymaint o fusnesau creadigol ifanc yn Abertawe hefyd, felly mae’n galonogol iawn y bydd y prosiect hefyd yn cynnwys mannau ar gyfer busnesau mentrus o’r math hwn."

Pynciau cysylltiedig