Brwydro i achub 'pensaernïaeth arbennig' Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae pensaernïaeth yn rhan fawr o hunaniaeth yr artist Catrin James o Abertawe. Ers blynyddoedd bellach mae hi wedi bod yn dogfennu adeiladau modernaidd y ddinas sydd wedi cael dylanwad mawr ar ei gwaith a'i bywyd.
Catrin sydd yn rhedeg cyfrif y Swansea Modernist Society ar Instagram. Mae'n rhan o rwydwaith y Modernist Society o Fanceinion sydd yn dogfennu adeiladau modernaidd ar draws Prydain.
"Yn y 60au cynnar fe symudodd fy nheulu o Drefforest i Abertawe achos roedd fy Nhad-cu wedi cael swydd fel gofalwr yn y newly-built Dyfatty Flats. Ar ôl hynny wnaeth e gael swydd arall fel gofalwr yn y Clinig Canolog," meddai Catrin.
"Roedd y llefydd yma yn rhan fawr o fy mhlentyndod a pan oeddwn yn ifanc iawn daeth y built environment yn Abertawe yn bwysig iawn i mi. Roedd e i gyd yn edrych yn newydd iawn."
"Roedd y rhan fwyaf o adeiladau canol Abertawe mewn steil post-war ac roeddwn i'n meddwl mai dyma beth oedd pensaernïaeth. Roeddwn yn gwybod bod adeiladau hynach o gwmpas ond wrth gymharu fy ninas i â rhai eraill roeddwn yn teimlo bod bob man yn edrych yr un peth a bod rhywbeth unigryw am Abertawe," meddai Catrin.
Roedd hyn yn ystod yr 1980au a daeth Catrin i garu'r adeiledd roedd hi'n gweld o'i chwmpas.
Y symudiad fodernaidd
Erbyn i Catrin gyrraedd ei harddegau roedd ei diddordeb dal yn gadarn ym myd pensaernïaeth felly aeth hi ymlaen i'w astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn 1998 cyn newid i gwrs Celf Gain.
"Roedd fy ngwaith i gyd yn ymwneud â phensaernïaeth post-war ac fe es i yn obssessed gyda phensaernïaeth Bauhaus a'r Stijl Movement. Cafodd pobl fel Walter Gropius, Ludwig Mies van der Rohe a Gerrit Rietveld effaith fawr arna i; pobl oedd wedi cael dylanwad enfawr ar bensaernïaeth yn Ewrop yn y 1920au a'r 30au."
Mae gwreiddiau'r symudiad modernaidd yn dyddio yn ôl i ddechrau'r 1900au pan aeth artistiaid ati i roi pwyslais ar leoli celf a phensaernïaeth ochr yn ochr â phrofiadau a gwerthoedd bywyd yn y cyfnod diwydiannol. Roedd dylanwad gwaith celf haniaethol artistiaid fel Henri Matisse, Paul Gauguin, Georges Braque a Bart van der Leck yn enfawr.
Cyn hir roedd penseiri fel Walter Gropius, Le Corbusier a Ludwig Mies van der Rohe wedi sefydlu ei hunain fel cewri cangen pensaernïol y symudiad yn yr 1920au a'r 30au.
Er mai ar ddechrau'r ganrif y ganwyd y symudiad fe barhaodd y ffigurau yma i ddylanwadu yn fyd-eang, a hynny hyd at y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd.
"Wnaeth 'rhain ddylanwadu ar ddelwedd post-war architecture ar draws Prydain ac yn Abertawe," meddai Catrin.
Effaith rhyfel
Abertawe gafodd hi waethaf gan fomiau'r Natsïaid yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd - rhwng 1940 a 1943 cafodd y ddinas ei bomio dros 40 o weithiau.
Yn ystod Blitz 1941 lladdwyd 230 o bobl ac fe ddinistriwyd y ddinas yn llwyr. O ganlyniad fe newidiwyd delwedd y ddinas am byth.
"Roedd Abertawe wedi cael ei bomio gymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dyna pam mae cymaint o bensaernïaeth fodernaidd yma," meddai.
"Wnaeth y ddinas godi 'from the phoenix of the ashes' fel petai.
"Yn amlwg roedd Caerdydd wedi cael ei bomio ond doedd dim dinas arall yng Nghymru wedi ei chael hi mor ddrwg ag Abertawe. Wnaeth e siapio sut oedd Abertawe yn edrych wedi hynny."
Achub adeiladau
Un o flaenoriaethau Catrin yw sicrhau nad yw'r adeiladau a'r darnau pwysig yma o stori Abertawe'n diflannu.
Mae Catrin bellach yn rhan o The Twentieth Century Society sydd wedi ei chreu er mwyn ceisio rhestru ac achub adeiladau ym Mhrydain.
Ar hyn o bryd mae hi'n ceisio gwarchod Canolfan Ddinesig Abertawe sydd yn enghraifft o adeilad Brutalist - sef steil sydd wedi deillio o'r symudiad modernaidd.
Cafodd yr adeilad ei chodi rhwng 1979 a 1984 fel pencadlys i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg.
"Mae ganddi steil arbennig ac mae'r interior yn hynod o brydferth," meddai Catrin. "Dyw e heb gael ei newid mewn 40 mlynedd.
"Mae 'na deimlad cymysg yn y ddinas dros be' ddylai ddigwydd i'r adeilad ond o leiaf ar hyn o bryd gallwn ni geisio dod a'r adeiladau i sylw'r bobl."
Ddoe a heddiw
Un o bryderon Catrin yw'r perygl y bydd yr adeiladau hyn yn cael eu dymchwel gydag adeiladau newydd "dienaid" yn cael eu codi yn eu lle, meddai.
"Nawr yw'r amser i daro nodyn ar y steil yma. Mae Abertawe yn le eithaf arbennig ac mae lot yn digwydd yma ond mae'r steil 'ma yn dechrau diflannu a dim ond rhyw 70 oed yw llawer ohonyn nhw."
Does dim modd cymharu'r meddylfryd tu ôl i bensaernïaeth fodernaidd â sut mae adeiladau yn cael eu llunio heddiw, yn ôl Catrin.
"Does dim cymaint o feddwl am yr utopian ideal fel oedd 'na ar ôl y rhyfel lle'r oedd na bwyslais i wneud pobl yn hapus a rhoi nhw mewn adeiladau sydd yn well i'w lles nhw.
"Roedd y symudiad Bauhaus eisiau gwneud i bobl deimlo yn well yn yr adeiladau 'ma gyda ffenestri mawr gan feddwl am ble mae'r haul… mae'r ochr yma wedi mynd dyddiau yma."
Er hyn mae Catrin yn ffyddiog fod agweddau yn newid, yn enwedig ymhlith yr ifanc.
"Fi'n credu bod ffasiwn yn newid a bod pobl nawr yn dechrau gwerthfawrogi pensaernïaeth ar ôl Yr Ail Ryfel Byd a brutalism dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n teimlo fod pobl ifanc yn enwedig yn dangos diddordeb."
Hefyd o ddiddordeb: