Llanberis yn dathlu'r cyswllt Eidalaidd

Murlun sy'n dathlu cyfeillgarwch y ddau le yn Y Ganolfan, Llanberis Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Murlun sy'n dathlu cyfeillgarwch y ddau le yn Y Ganolfan, Llanberis

  • Cyhoeddwyd

Eleni, mae pentref Llanberis yn dathlu ugain mlynedd ers gefeillio gyda thref Morbegno yn nyffryn Valtellina, gogledd Yr Eidal.

Ond yn 1980 y dechreuodd y berthynas rhwng pobl Llanberis a Morbegno a hynny oherwydd cysylltiad y ddau le gyda rhedeg mynydd.

Mae Ken Jones, sylfaenydd Ras Yr Wyddfa a’r un a gychwynnodd y berthynas rhwng y ddau le, yn cofio croesawu llond llaw o Eidalwyr i Lanberis fis Gorffennaf 1980.

“Oeddan ni’n meddwl sa’ ni byth yn gweld nhw eto, mae’n stori ryfeddol,” eglura Ken wrth gofio yn ôl i haf 1980, ac Eidalwr yn dod yn fuddugol yn Ras Yr Wyddfa am y tro cyntaf, sef Privato Pezzoli.

Dros 40 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae pobl Llanberis newydd groesawu 21 o Eidalwyr i’w pentref i ddathlu dros ddeugain mlynedd o gyfeillgarwch ac ugain mlynedd o efeillio swyddogol.

Ffynhonnell y llun, Ras Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Ras yr Wyddfa 1984: Privato Pezzoli, yr enillydd ar y blaen, Kenny Stuart tu ôl ac yna Fausto Bonzi. Fe enillodd y tri yma’r ras ar wahanol flynyddoedd

Ras Yr Wyddfa a Ras Trofeo Vanoni

Tref mewn dyffryn o’r enw Valtellina wrth droed yr alpau yng ngogledd yr Eidal ydy Morbegno.

Pan gafodd Ken y syniad i ddechrau ras i gopa Yr Wyddfa ac yn ôl i lawr i Lanberis yn 1976, roedd ras fynydd Trofeo Vanoni sy’n cychwyn o Morbegno ac yn dringo hyd lethrau technegol a serth eisoes yn bodoli ers 1958.

Ffynhonnell y llun, Gefeillio Llanberis a Morbegno
Disgrifiad o’r llun,

Morbegno

Cysylltiad Llanberis a Morbegno â rhedeg mynydd sydd wrth wraidd perthynas y ddau le, mae Ken yn egluro:

“Mi wnes i ddechrau Ras Yr Wyddfa yn 1976 ac ar ôl y pedwerydd ras wnaeth enillydd ras 1977 a 1978 ’sgwennu ata i a deud y basa fo’n beth da i ni drio cael rhedwyr tramor i Llanbêr.

“Oedd yna glwb oedd yn cefnogi rhedwyr adeg hynny o’r enw Spyridon, a drwyddyn nhw gafon ni yr Eidalwyr i ddod i Ras yr Wyddfa.

“A’r rheswm ddoth yr Eidalwyr oedd mai nhw ydi’r unig wlad yn Ewrop sy’n cynnal rasys i fyny a lawr mynyddoedd; roedd rasys mynydd eraill Ewrop i gyd yn gorffan ar y copa.”

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ken (dde) gyda'r diweddar Pietro Bota rai blynyddoedd yn ôl

Daeth Ken i gysylltiad gyda’r diweddar Gian Pietro Bota, a daeth pedwar o Eidalwyr i Lanberis i gystadlu yn Ras yr Wyddfa 1980; ras 10 milltir sy’n esgyn i gopa uchaf Cymru cyn disgyn yn ôl i Lanberis.

“Dwi’n cofio nhw'n cyrraedd stesion Bangor, mynd i’w nôl nhw mewn hen fan ac oedd hi’n tywallt y glaw. Oedd hi’n hwyr nos Wenar ac oedd y ras bora dydd Sadwrn.

“I ffwrdd â nhw i ben Yr Wyddfa ac i lawr, Privato Pezzoli yn ennill y ras a mynd adra nos Sadwrn.”

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Un o’r teithiau cynnar i Morbegno yn yn Eidal gan Glwb Eryri. O’r chwith, maer Morbegno, Ken Jones, Robin John o Waunfawr, Garry Ellis, y diweddar Alan Hughes, Pete Roberts a Malcolm Jones o Dremadog

 Ken a gweddill pwyllgor Ras Yr Wyddfa yn meddwl na fydden nhw byth yn gweld y pedwar Eidalwr eto, ymhen rhai wythnosau daeth llythyr gan lyfrgellydd o Morbegno:

“Doedd yna fawr neb yn siarad Saesneg yn Morbegno ond y llyfrgellydd, a fo 'nath anfon y llythyr yn gofyn os fasa nhw’n cael dŵad eto.

“O hynny ymlaen, 'nath Ras yr Wyddfa a Ras Trofeo Vanoni efeillio, gyda rhedwyr clwb C.S.I Morbegno yn dod i redeg Ras yr Wyddfa bob blwyddyn, a rhedwyr o Glwb Rhedeg Eryri yn mynd draw i’r Eidal i gystadlu yn Ras Trofeo Vanoni.

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken wedi bod i weld a chefnogi ras fynydd Trofeo Vanoni yn Morbegno nifer o weithiau

Y berthynas yn datblygu

Datblygodd y berthynas tu hwnt i fyd anturus rhedeg mynydd a gefeilliodd Llanberis gyda Morbegno yn 2004.

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ken yn tywys yr Eidalwyr o amgylch Llanberis

Meddai Ken: "Ers hynny mae’r côr wedi bod drosodd, chwaraewyr o Glwb Rygbi Caernarfon, dawnswyr gwerin, a bandiau o Lanberis fel The Heights. Mi yfodd Clwb Rygbi Caernarfon y dref yn sych!”

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Band The Heights yn Morbegno sawl blwyddyn yn ôl

Yn ogystal â mwynhau yng nghwmni ei gilydd, mae trigolion Llanberis a Morbegno hefyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

Rai blynyddoedd yn ôl aeth criw o nyrsys a meddygon o Uned Arenol Ysbyty Gwynedd i ymweld ag uned arenol mewn ysbyty yn y ddinas agosaf i Morbegno, sef Sondrio, ac aeth nyrsys a meddygon o Sondrio i Ysbyty Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd gefeillio yn Morbegno

Roedd Ken sydd wedi derbyn trawsblaniad aren, yn awyddus bod nyrsys a meddygon Cymru a’r Eidal yn dod i ddeall a dysgu am driniaeth dialysis y ddwy wlad.

“Ddaru ni drefnu hefyd bod claf oedd dan ofal Ysbyty Gwynedd yn derbyn triniaeth dialysis yn Yr Eidal, a chlaf o Morbegno yn cael triniaeth dialysis ym Mangor.

“Ar y pryd, roedd triniaeth dialysis Ysbyty Gwynedd yn fwy blaengar na’r ysbyty yn yr Eidal a be’ ddysgon nhw fwya’ oedd i roi pobl adra i gael dialysis.”

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyd-goginio a rhannu ryseitiau yn Y Bistro yn Llanberis rai blynyddoedd yn ôl

‘Tref debyg i Lanberis’

Erbyn hyn mae Ken wedi ymweld â Morbegno dros ddeugain o weithiau. Beth yw argraffiadau y brodor o Lanberis o'r dref?

“Mae’n dref ’run fath â Llanberis ond bod hi’n fwy, ynghanol yr Alpau ond yn hollol fflat.

Ffynhonnell y llun, Ken Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y Ddraig yn Morbegno

“I fyny yn y mynyddoedd mae ’na nifer o fythynnod bach neu ffermydd bach, bron fatha oedd gan Lanberis flynyddoedd yn ôl efo’r ffermydd a’r tyddynnod bach i fyny’r llethrau.

“Unig beth sydd gynnyn nhw a sgynnon ni ddim ydi gwinllannau. Gwinllannau sganddyn nhw, chwareli llechi sgynnon ni!”

Dathliadau 2024

Ffynhonnell y llun, Pwyllgor gefeillio Llanberis/Morbegno
Disgrifiad o’r llun,

Posteri yn hyrwyddo dathliadau gefeillio 2024

Mae trigolion Llanberis a Morbegno wedi ymweld â’r naill le yn flynyddol dros y degawdau diwethaf gan gynnig llety i’w gilydd, a dyw eleni ddim gwahanol.

Ddiwedd Mai 2024 aeth y band o Lanberis, Alffa, i Morbegno gan berfformio mewn gŵyl yno. Nos Sadwrn 8 Mehefin perfformiodd y band Caven o Morbegno yng Nghlwb Cymdeithasol Llanberis.

Ffynhonnell y llun, Caven
Disgrifiad o’r llun,

Y band Caven o Morbegno yn ymweld ag Ysgol Dolbadarn fis Mehefin 2024

“’Dan ni’n gobeithio neith y berthynas yma bara am byth,” meddai Ken.

“Bydd plant Ysgol Dolbadarn bob tro’n cael ymweliad gan yr Eidalwyr, a byddwn ni yn ymweld â phlant ysgol Morbegno pan fyddwn ni'n mynd acw.

“Mae'n cyfeillgarwch ni'n ffordd o ddysgu am hanes ein gilydd, ac am ddiwylliant ein gilydd; mae'n bwysig gwneud pethau fel hyn.”

Ffynhonnell y llun, Alffa
Disgrifiad o’r llun,

Alffa yn perfformio ar lwyfan gŵyl ym Morbegno

Pynciau cysylltiedig