Lluniau o gymuned ddringo ardal Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae dringo yn rhan o hanes ardal Llanberis, a chymuned o fynyddwyr a charedigion y byd chwaraeon awyr agored wedi datblygu yno dros y degawdau.
Yn eu mysg mae'r ffotograffydd a chynhyrchydd fideo Ray Wood, sydd newydd greu ffilm am y gymdeithas yma.
Dyma oriel o rai o'r lluniau mae o wedi eu tynnu dros y degawdau a gafodd eu cynnwys yn ei ffilm Adra, enillodd y wobr cymuned a diwylliant yn y Kendal Mountain Festival fis Tachwedd 2023.

John Redhead yn cael hwyl ar wal Pete's Eats, Llanberis. Roedd y caffi yn boblogaidd iawn gyda dringwyr a cherddwyr ers iddo agor yn 1978, cyn cau yn ddiweddar

John Redhead unwaith eto, ond ar ddringfa dipyn uwch sydd hefyd yn boblogaidd gyda dringwyr - chwarel Dinorwig. Enw'r ddringfa yma ydi Poetry Pink, ar graig llechen sydd wedi ei enwi'n Enfys, oherwydd y patrwm ar y graig

Patch Hammond, y diweddar Ken Wilson (wnaeth greu'r llyfrau Classic Rock a Hard Rock) a Noel Craine ger Pont y Gromlech, rhwng Nant Peris a Phen-y-Pass

George Smith a Paul Pritchard ger Pen-y-Pass. Anafwyd Paul, oedd yn byw yn Llanberis yn yr 1990au, pan ddisgynnodd carreg arno wrth ddringo yn Tasmania

Zoë Wood ar gopa'r Wyddfa am y tro cyntaf

Flynyddoedd yn ddiweddarach a Zoë Wood yn dringo gyda'i mam yn Rhoscolyn, Ynys Môn. Yn Adra, mae Zoë yn trafod ei phrofiad o gael ei magu o fewn y gymuned ddringo yng ngogledd Cymru

Tim Emmett ar un o glogwyni'r arfordir ger Bae Trearddur, Ynys Môn

Dawnsio ym Mangor yn ystod dyddiau cynnar 'rave'

Mae Leo Houlding yn ddringwr byd-enwog erbyn hyn - dyma fo fel dyn ifanc yng ngogledd Cymru, ac ar ei gynnig cyntaf ar ddringfa anodd Trauma, Dinas Mot, ger Llanberis, yn 1999

Leo Houlding ar ddringfa newydd ym Mhen y Gogarth, Ynys Môn. Mae dringwyr o bob cwr o'r byd yn dod i ogledd Cymru gan fod cymaint o wahanol fathau greigiau mewn ardal fach

Mae James McHaffie a Lewis Perrin-Williams (sy'n dringo yn chwarel Dinorwig yn y llun ar y chwith) yn cymryd rhan yn y film Adra. Lewis, ar dop Ynys Arw, Ynys Môn, sydd yn y llun ar y dde

Tim Emmett, oedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd ond sydd bellach yn byw yng Nghanada, yn dringo ger Llanberis