Cara a Giovana Braia: Byw bywyd i'r eithaf

Cara a Giovana Braia
- Cyhoeddwyd
O berfformio styntiau ar ffilmiau i anadlu tân, mae'r chwiorydd o Gricieth, Cara a Giovana Braia, yn byw bywyd i'r eithaf.
Ac mae'r ddwy'n taeru mai eu magwraeth yng ngogledd Cymru sy'n gyfrifol am y ffaith fod y ddwy yn barod i fentro.
Meddai Giovana, y chwaer ieuengaf sy'n berfformiwr styntiau sy' wedi gweithio ar gyfresi teledu fel Squid Games: The Challenge a The Witcher: "Dwi'n 'neud bob dim – ceffylau, tân, dreifio... bob dim! Beth bynnag maen nhw'n gofyn i fi wneud...
"Dwi 'di neud dipyn o wahanol jobs stunt double erbyn hyn hefyd."
Gan berfformio styntiau mewn cyfresi fel The Power ar Amazon a The Veil ar Disney yn ogystal ag mewn ffilm arswyd o'r enw Tarot ar Netflix, mae Giovana wedi gorfod meistroli chwe maes er mwyn cymhwyso fel perfformiwr styntiau gan gynnwys marchogaeth, crefft ymladd a gyrru.

Giovana wrth ei gwaith fel perfformwraig styntiau
Beth felly yw stynt mwyaf peryglus Giovana hyd yma?
Meddai: "'Nes i gael fy hongian 20m off pont – oedd hwnna'n crazy. O'n i'n gorfod 'neud stynt ar horror film newydd a chael fy hongian. 'Natho ni 'neud o lot ac ar y tro ola' 'naeth y safety line dorri...
"Mae Cara'n gweld fi fel y tomboy o'r ddwy ohono ni - mae hi yn fwy am yr ochr glam mewn bywyd."

Cara Braia
Mae Cara, sy' newydd ymddangos fel un o'r cystadleuwyr ar gyfres S4C Y Llais, yn ddylanwadwr ac yn creu cynnwys i'r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag actio a chanu.
Meddai: "Dwi'n rili licio busnes – dwi'n caru gwneud arian!
"Rŵan dwi'n gallu creu cynnwys a bod yn greadigol so mae hwnna'n rili cŵl. Wrth i fi weithio i fy hun dwi'n rhydd i berfformio hefyd."
Roedd cystadlu yn Y Llais yn brofiad arbennig iddi, meddai: "'Nes i drio i weld ac yn enwedig efo fo'n bod yr un cynta' yng Nghymru - dwi'n licio cefnogi pethau Cymraeg. Oedd o'n amazing, 'nes i rili mwynhau ac oedd pawb mor neis.
"Ar ôl Y Llais dwi wedi gweithio ar LP ac wedi mynd yn ôl i gerddoriaeth. Mae'r gyfres wedi rhoi cic i fi fynd yn ôl i greu cerddoriaeth eto. Dwi 'di gweithio efo artistiaid dros y byd gan gynnwys Stoneboy."

Cara ar raglen Y Llais
Ond yn ei gwaith dyddiol, yn ogystal ag actio ar gyfresi fel Bariau ar S4C, mae Cara'n creu cynnwys ar gyfer TikTok, yn bennaf pethau ffasiwn a bywyd adref.
Meddai: "Mae'r gynulleidfa rhwng 25 a 35 oed – mae TikTok yn blatfform sy'n newid yn sydyn ac mae 'na lot o bres i wneud.
"Dwi'n rhedeg siop TikTok. Mae o'n newid o fod yn platfform lle oedd pobl yn dawnsio ac ati. Dwi wedi bod yn gweithio efo brands rŵan fel adidas a New Balance. Mae'r brands i gyd yn cychwyn yno."
Perfformio
Er fod y ddwy wedi mynd ar drywydd gwahanol o ran gyrfa, un elfen sy'n uno'r ddwy yw tân; mae Giovana yn perfformio efo tân fel rhan o'i gwaith styntiau ar ffilm a Cara yn ymarfer anadlu efo tân.
Meddai Giovana: "Mae Cara yn anadlu efo tân. Ond dwi jest yn setio fy hun ar dân (fel rhan o'i gwaith styntiau)!
"Ti'n rhoi siwt amddiffyn ymlaen, mae 'na gel ti'n rhoi ar dy wallt neu dy wyneb. Pan ti'n cychwyn teimlo'r gwres ti'n mynd i'r llawr a maen nhw'n rhoi'r tân allan."
Mae Giovana yn pwysleisio fyddai hi dim ond yn gwneud stynt efo tân ar set diogel lle mae cydlynydd diogelwch yn ei gwarchod.
Ac mae Cara yn dawnsio efo tân, fel mae'n esbonio: "Ti'n rhoi tân ar y croen a'n dawnsio efo'r fflamau a'n bwyta tân neu 'neud transfers – rhoi tân ar tafod ti, symud y tân o gwmpas corff ti.
"Ti angen rhywun efo tywel gwlyb achos ti ddim efo protection. 'Sa fo'n brifo os fyddet ti'n gadael o am hir – ond achos ti'n symud efo'r fflam mae'n gweithio. Mae'n cymryd gwallt dy fraich off ond ti ddim yn teimlo'r tân.
"Ar ôl i ti berfformio ti'n cael blisters weithiau – ar y tafod neu ar wefusau ond ti ddim yn teimlo fo yn y foment."
Nid yw dawnsio efo tân yn rhywbeth i'w wneud heb hyfforddiant.

Mentro
Mae'r ddwy yn hoffi mentro ac yn diolch i'w magwraeth am hynny.
Meddai Giovana: "Pan o'n ni'n fach oedd Mam a Dad wedi rhoi fi a Cara mewn i boxing, reidio ceffylau a gweld beth oeddan ni'n licio ac oeddan ni'n dweud, 'ni'n licio popeth!'
"Oeddan ni bob tro mewn cystadleuaeth efo'n hunain. Dwi'n meddwl o 'neud bob dim pan oeddan ni'n fach oeddan ni'n gweithio'n galed a mynd amdani. 'Dan ni wedi tyfu fyny ac yn cario mlaen i wthio.
"'Nes i fynd i berfformio yn Llundain a chael audition i ffilm Marvel fel actores/dawnswraig ac wedyn cael brêc yn stiwdios Disney a gweld y pobl styntiau. 'Nes i ffonio Cara a dweud, 'dwi'n gwybod beth dwi isho 'neud'."

Perthynas
Mae'r ddwy yn agos ac yn byw drws nesaf i'w gilydd. Meddai Cara: "Dwi bum mlynedd yn hŷn na Giovana a 'da ni 'di bod yn agos ond dwi'n meddwl achos bod ni mor wahanol mae'n gweithio. O'n i o hyd wedi isho bod yn rhywun mae hi'n sbio i fyny at a 'da ni'n anwybyddu yr age gap.
"'Da ni'n ffrindiau gorau, yn byw drws nesa i'n gilydd. Bob bore yn cerdded y cŵn efo'n gilydd a bob nos dwi'n 'neud bwyd – fel housewife i fy chwaer!
"'Da ni'n teimlo bod ni'n gweithio efo'n gilydd."
Roedd rhieni'r ddwy yn hunan-gyflogedig hefyd felly maen nhw'n gyfarwydd gyda byw felly, meddai Cara: "'Da ni wedi gweld nhw'n cymryd risks a'r ups and downs efo hwnna.
"Efo'r bywyd 'da ni wedi dewis does dim guarantees. Os ti'n gweld hwnna wrth dyfu i fyny ti'n sylweddoli bod pethau yn gweithio allan yn y diwedd."

Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021