Y brawd a chwaer sy'n 'byw am feicio'

Ffion a MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Yn ystod diflastod y cyfnod clo mi wnaeth brawd a chwaer o Dreffynnon gychwyn hobi newydd sef reidio beiciau BMX a beiciau mynydd. Erbyn hyn mae Morgan a Ffion wedi profi cryn lwyddiant yn y maes gan ennill nifer o wobrau yn rasio ac yn perfformio campau ar y beics.

Cafodd Morgan, sy'n 15 oed, ei enwi fel reidiwr newydd y flwyddyn 2023 gan MBUK (Mountain Biking UK), rhywbeth mae'n ystyried yn uchafbwynt ei yrfa beicio hyd yma, yn enwedig gan iddo ymddangos ar glawr cylchgrawn MBUK.

Ac er bod y ddau yn gystadleuol gyda’i gilydd maen nhw’n gytûn mai un peth sy’n gyfrifol am eu llwyddiant hyd yma, sef ymarfer. Mae'r ddau wedi dysgu eu sgiliau eu hunain ac maent yn 'byw am feicio' yn ôl eu mam Cora.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae’r brawd a'r chwaer yn cydnabod eu bod yn lwcus iawn eu bod nhw'n byw yn ardal Treffynnon oherwydd mae ’na ddigon o lefydd yno i fynd i ymarfer ac i drio campau newydd.

Mae beicio mynydd yn gamp sy’n golygu reidio beic ar dirwedd garw fel mynyddoedd neu greigiau. Antur Stiniog yw hoff le y ddau i ymarfer – er maen nhw’n ddigon hapus yn ymarfer eu triciau tu allan y tŷ ar y stryd hefyd.

Meddai Morgan: “Aethon ni i feicio mynydd yn y cyfnod clo ac yna penderfynon ni gario ymlaen i reidio.

“Roeddem yn ymarfer dipyn ar y mynydd ac yna fe aeth yr holl beth o fan yna a dechreuon ni wneud ein neidiau ein hunain.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Morgan, sy' wedi cystadlu yng nghystadleuaeth neidio Dirt Wars Malvern

“Cawsom ni feiciau BMX fel anrheg Nadolig ac mi wnaeth hynny roi fwy o hyder i ni neidio a gwneud stunts.

“Pan oedden ni dan glo o’n ni’n dysgu rhywfaint o stunts oedd yn frawychus ar y cychwyn ond wedyn y mwyaf chi'n gwneud nhw mae’n dod yn haws. Ni’n gwneud llawer o stunts brawychus erbyn hyn!”

Mae Ffion, sy’n 12 oed, yn cytuno: “Rydyn ni'n dal i syrthio yn aml a dwi wedi torri fy ngarddwrn. Ond ni eisiau reidio o hyd.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ffion yn neidio'n uchel ar y beic. Mae hi wedi ennill medalau gan gynnwys tair medal aur ac un fedal arian mewn rasys ym Malvern dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Ffion wedi ennill medalau arian a medal aur yng nghystadleuaeth Backyard Jam ar gyfer BMX Freestyle ac hefyd wedi ennill aur mewn ras fynydd eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Hoff sgiliau

Meddai Ffion, oedd y ferch gyntaf erioed i gymryd rhan yng nghystadleuaeth neidio Dirt Wars: “Mwy na thebyg gwneud 360 yw tric gorau fi – chi’n gwneud spin 360 ar dy feic. Dwi jest yn cario mlaen i drio nes mod i’n gallu gwneud rhywbeth. Ond dorrais i fy ngarddwrn yn gwneud y 360 yn anffodus.”

A beth yw hoff dric Morgan?

Meddai: “Dwi’n gallu gwneud backflip ar y beic – dwi’n ymarfer hwnnw mewn parc sgrialu (skatepark).”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Morgan mewn parc sgrialu

Cystadleuaeth

Mae’r ddau yn cytuno fod y ddau yn gystadleuol gyda’i gilydd ond fod Morgan mymryn yn fwy cystadleuol na Ffion.

Ond mae'r brawd hŷn yn taeru fod hi’n help i gael cwmni ei chwaer wrth iddo ddatblygu ei sgiliau: “Mi fyddwn dal wedi bod eisiau beicio heb Ffion ond mae’n help i gael dau ohonom yn gwneud gyda'n gilydd.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ffion ar gychwyn ras. Mae Ffion wedi cyrraedd y 10 terfynol yng nghystadleuaeth MBUK am reidiwr newydd y flwyddyn eleni

Uchafbwynt

Tra bod ei brawd wedi ennill gwobr am fod yn dalent newydd, uchafbwynt Ffion hyd yma oedd ymddangos ar Blue Peter.

Felly beth nesaf i’r ddau?

“Mwy o reidio” yw ateb Morgan tra fod Ffion yn edrych ymlaen i gymryd rhan mewn mwy o rasys eleni gan gynnwys rhai yng Nghymru. Mae’r ddau yn mynd i Dragon Races yn Rhyl pan fo cyfle.

Meddai Morgan: “Dwi eisiau bod yn fersiwn gwell o fy hun ond hefyd cael fy noddi gan Red Bull neu Monster.”

Mae uchelgais Ffion yn debyg: “Hoffwn fod yn reidiwr proffesiynol ac hefyd cael fy noddi.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pynciau cysylltiedig