Achub mul a 'syrthiodd 20 metr lawr llethr' yn Aber-miwl

Swyddogion tân yn cludo Nicky y mul ar draws afonFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion tân yn cludo Nicky y mul ar draws afon

  • Cyhoeddwyd

Mae achubwyr yn y canolbarth wedi treulio tair awr yn dod i gymorth mul oedd wedi syrthio, yn ôl y gred, 20 metr i lawr llethr.

Fe gafodd criwiau tân eu galw i bentref Aber-miwl, ger Y Drenewydd, ychydig cyn 09:00 fore Sul.

Roedd yna filfeddyg yno hefyd i lonyddu'r mul, o'r enw Nicky, cyn i tua 15 o swyddogion tân ei roi ar sled bwmpiadwy a'i gludo ar draws afon.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y mul wedi syrthio i lawr llethr i'r afon

Fe gafodd Nicky ei gludo'n ôl adref i ailymuno â mul arall ar gae cyfagos.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Drama cyn y Nadolig - ond diweddgo da ac achubiaeth i'r mul o Aber-miwl

Fe wnaeth ymgyrch bara am dair awr, yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cafodd criwiau eu hanfon i Aber-miwl o Drefaldwyn, Y Drenewydd, Y Trallwng a Rhaeadr.

Pynciau cysylltiedig