Dynes o Gaerdydd yn gwadu stelcian teulu Madeleine McCann

Mae Karen Spragg wedi ei chyhuddo o stelcian gan achosi braw neu drallod difrifol i deulu Madeleine McCann
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 60 oed o Gaerdydd wedi gwadu cyhuddiad o stelcian teulu Madeleine McCann.
Diflannodd Madeleine yn dair oed yn ystod gwyliau gyda'i theulu ym Mhortiwgal yn 2007, ac mae'r achos yn parhau heb ei ddatrys.
Fe blediodd Karen Spragg, o ardal Caerau yng Nghaerdydd, yn ddieuog i gyhuddiad o stelcian gan achosi braw neu drallod difrifol mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerlŷr ddydd Mawrth.
Honnir fod Ms Spragg wedi cyflawni'r drosedd rhwng 3 Mai 2024 a 21 Chwefror eleni.
Mae dynes arall, Julia Wandel o Wlad Pwyl, hefyd wedi pledio'n ddieuog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â stelcian y teulu, mynd i'w cartref ac anfon llythyr a negeseuon atynt.
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn y ddwy ddechrau ar 2 Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth