Eisteddfod Wrecsam: 8 peth sy'n aros yn y cof

EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi mynd am flwyddyn arall - ac roedd un Wrecsam yn gofiadwy am sawl rheswm.

P'un ai os oeddech chi yno, yn gwylio ar y teledu, neu'n dilyn ein llif byw, mae Cymru Fyw wedi ceisio crynhoi'r cyfan.

Heb os, mae mwy, ond dyma wyth peth sy'n aros yn y cof wrth edrych yn ôl ar y Brifwyl eleni.

1. Cadeirio Tudur Hallam

Disgrifiad,

Cynulleidfa'r pafiliwn yn codi ar eu traed i gymeradwyo Tudur Hallam wedi geiriau angerddol yr Archdderwydd Mererid

Prin fod yna'r un llygad sych yn y pafiliwn yn seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener, wrth i Tudur Hallam ennill am awdl hynod bersonol ar ei brofiad o gael diagnosis canser.

Mewn seremoni llawn emosiwn, cododd y gynulleidfa ar eu traed i gymeradwyo'r bardd buddugol, cyn i'w frawd, Gwion, ei gyfarch gyda cherdd ac yna'i gofleidio.

Dywedodd Tudur nad oedd yn "siŵr a fydden i yma ym mis Awst".

"Ond gyda chefnogaeth meddygon, nyrsys, teulu, cariad... 'wi 'di 'neud hi a, ydw, dwi yn falch mod i wedi cystadlu."

Wrth droi at Tudur ar ôl y seremoni, dywedodd y prifardd Gruffudd Owen: "'Da ni'n dda iawn fel Cymry am anrhydeddu ein prifeirdd ond dwi'm yn meddwl fod 'na unrhyw brifardd erioed wedi haeddu y fath gymeradwyaeth na chefnogaeth a ges di heddiw."

Roedd teilyngdod a chlod uchel ymhob un o'r seremonïau eleni - y Coroni, Gwobr Goffa Daniel Owen, Dysgwr y Flwyddyn, y Fedal Ryddiaith, Medal y Dramodydd, y Cadeirio, a Medal y Cyfansoddwr.

2. Cofio Dewi Pws a Geraint Jarman

Nwy yn y NenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd noson Nwy yn y Nen ei chynnal ar y Maes nos Lun

Cafodd dau o gewri'r byd adloniant Cymraeg eu cofio ar y Maes eleni.

Roedd noson Nwy yn y Nen ar Lwyfan y Maes nos Lun yn gyfle i gofio am Dewi Pws, fu farw ychydig wythnosau wedi'r Eisteddfod y llynedd.

Daeth artistiaid fel Elidyr Glyn, Pedair, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor a Cleif Harpwood at ei gilydd i ganu rhai o'i ganeuon mwyaf cofiadwy.

"Byddai Dewi wedi gwirioni," meddai ei wraig, Rhiannon.

"Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymryd rhan yn y cyngerdd, a'i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau."

Osian CandelasFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Osian Huw Williams yn cyfrannu ar noson cofio Geraint Jarman

Nos Fercher yn y Babell Lên roedd noson o gerddoriaeth a barddoniaeth i ddathlu bywyd a gyrfa Geraint Jarman.

Bu farw yn sydyn ym mis Mawrth eleni yn 74 oed.

Roedd y babell yn orlawn, gyda chiw hir i fynd mewn a phobl yn gwrando ar yr arlwy o'r tu allan.

Roedd nifer o berfformiadau a darlleniadau cofiadwy, gan gynnwys Rhys Ifans yn darllen un o gerddi Jarman, gyda'r gynulleidfa yn gwrando'n astud ar bob gair.

3. Rob Mac a Maxine yn rhoi croeso

Rob a MaxineFfynhonnell y llun, Jet TV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rob McElhenney a Maxine Hughes yn amlwg yn falch o weld y Brifwyl yn dod i Wrecsam

Fe wnaeth Rob McElhenney ymuno â'r newyddiadurwr Maxine Hughes i ymarfer ei Gymraeg cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Ers dod yn gyd-berchennog ar Glwb Pêl-droed Wrecsam yn 2020, mae McElhenney a Ryan Reynolds wedi ceisio dysgu mwy am hanes a diwylliant Cymru, ac roedd yn amlwg yn falch o weld y Brifwyl yn dod i'r ddinas.

"Mae'n anrhydedd cael profi diwylliant Cymru – harddwch y celfyddydau, yr iaith a'r bobl – yn Wrecsam. Mae'n mynd i fod yn hollol wych," meddai ar drothwy'r Brifwyl.

Maxine Hughes oedd Arweinydd Cymru a'r Byd eleni, a fore Gwener fe gamodd ar y maen llog i gael ei derbyn i'r Orsedd.

Dywedodd bod cael ei hurddo a'i dewis yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn fraint arbennig gan fod "eisteddfodau yn rhan bwysig o'm plentyndod".

4. Ffarwel DI a'r band

Disgrifiad,

Dywedodd Dafydd Iwan bod ei gig olaf gyda'i fand yn yr Eisteddfod yn "brynhawn i'w gofio"

Ar hyd y blynyddoedd does yr un Steddfod wedi bod yn gyflawn heb berfformiad gan Dafydd Iwan.

Ar y prynhawn Sul cyntaf fe berfformiodd ar Lwyfan y Maes am y tro olaf gyda'i fand.

Roedd e'n "brofiad llawn emosiwn", meddai.

Ond ar ddiwedd y Brifwyl roedd yna un ffarwel arall, wrth iddo ganu 'Yma o Hyd' gyda Bwncath ar Lwyfan y Maes nos Sadwrn.

Ynghyd â pherfformiad trawiadol 'Wythnos yn Wrecsam Fu', dyna oedd yn cloi gweithgareddau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

5. Cydnabod yr arwyr tawel

Tony THomasFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tony Thomas wedi gweithio yn stordy yr Eisteddfod Genedalethol yn Llanybydder ers dros 40 mlynedd

Dydd Llun a dydd Gwener fe gafodd degau eu hurddo i wisgoedd gwyn, glas a gwyrdd yr Orsedd.

Yn eu plith roedd rhai sydd wedi rhoi degau o flynyddoedd o wasanaeth i'r Eisteddfod.

Roedd yna gryn gymeradwyaeth wrth i Tony Thomas gael ei dderbyn gan yr Archdderwydd Mererid.

Mae'n un o staff technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gweithio yn y stordy yn Llanybydder ers dros 40 mlynedd.

Ef sy'n gyfrifol am y gair 'Eisteddfod' mewn llythrennau mawr coch a'r bwa croeso lliwgar ger y fynedfa.

Roedd ar ben ei ddigon yn cael ei urddo ar y dydd Llun, gan godi ei ddwrn i'r awyr wrth dderbyn yr anrhydedd ar lwyfan y Pafiliwn.

Cledwyn Ashford Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cledwyn Ashford yn un o hoelion wyth yr Eisteddfod

Roedd un o wynebau cyfarwydd arall y Maes yn gwasanaethu yn y Brifwyl am y tro olaf eleni.

Ers 2007 mae Cledwyn Ashford wedi bod yn Brif Stiward yr Eisteddfod Genedlaethol, gan sicrhau fod popeth mewn trefn wrth i filoedd ymweld â'r brifwyl.

Eleni roedd yn rhoi'r gorau i'w swydd wedi 18 mlynedd o wasanaeth.

6. Tro olaf i Jean yn y Steddfod?

Disgrifiad,

Jean Rhoades: Teithio dros 6,000 o filltiroedd i'w heisteddfod olaf?

Mae Jean Rhoades yn dod o Landderfel ger Y Bala, ond yn byw yn Albuquerque, New Mexico ers 1956.

Dwy flynedd yn ôl fe deithiodd Jean dros 6,000 o filltiroedd i'r Maes ym Moduan ar ei phen ei hun yn 92 mlwydd oed, ac fe aeth y clip teledu ohoni hi a'r cyflwynydd Eleri Siôn yn feiral.

Bob yn ail flwyddyn, pan fydd y Brifwyl yn y gogledd, bydd Jean yn dychwelyd i Gymru i weld ei theulu yn Y Bala ac i fynd i'r Eisteddfod.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, a ddwy flynedd yn hŷn, roedd Jean yn Wrecsam, ac yn dweud mai dyma'r tro olaf, o bosib, y bydd hi'n gwneud y daith.

7. Hwyl Ashok, croeso Nic

Roedd Nic Parry hefyd yn brysur ar y dydd Sadwrn olaf wrth iddo ef a Malcolm Allen sylwebu'n fyw o'r Maes ar gêm Wrecsam yn erbyn SouthamptonFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nic Parry hefyd yn brysur ar y dydd Sadwrn olaf wrth iddo ef a Malcolm Allen sylwebu'n fyw o'r Maes ar gêm Wrecsam yn erbyn Southampton

Ganol yr wythnos fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai Nic Parry fydd Llywydd newydd Llys yr Eisteddfod a chadeirydd y Bwrdd Rheoli.

Bydd y cyn-farnwr a'r sylwebydd pêl-droed yn olynu Ashok Ahir, a fu yn y swydd ers 2019.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau yng nghyfarfod y Llys ddydd Iau yn dilyn proses recriwtio agored.

Felly beth allwn ni ddisgwyl gan Nic Parry fel Llywydd y Llys?

Gwrandewch ar ei gyfweliad cyntaf yn y rôl ar Dros Frecwast i ddysgu mwy.

Wrth iddo baratoi i adael ei rôl, mae Ashok Ahir hefyd wedi bod yn edrych yn ôl ar ei gyfnod fel llywydd y llys.

8. Croeso i'r Orsedd

Disgrifiad,

"Anrhydedd enfawr a phrofiad anhygoel" - ymateb rhai o'r rheiny a gafodd eu hurddo fore Gwener

Bu'n rhaid urddo yr aelodau newydd i'r Orsedd yn y pafiliwn ddydd Llun yn sgil ychydig o law a gwynt, ond ddydd Gwener yn "wyneb haul, llygad goleuni" cafodd y seremoni ei chynnal yng Nghylch yr Orsedd.

Roedd y ddwy seremoni yn llawn emosiwn ac yn "anrhydedd enfawr" i unigolion, teulu a ffrindiau.

Heb os roedd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn un hynod gofiadwy - digon i gnoi cil arno cyn i eisteddfodwyr droi eu golygon at Eisteddfod y Garreg Las 2026 yn Llantwd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol i rannu eich barn.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.