Arestio dyn yn dilyn tân angheuol ym Mwlch-llan, Ceredigion

y Ty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 14:15 brynhawn Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 58 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn tân angheuol yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yn dilyn adroddiadau o dân mewn tŷ yn ardal Bwlch-llan ger Llanbedr Pont Steffan am 14:15 brynhawn Llun.

Roedd difrod sylweddol i'r eiddo, gafodd ei ddisgrifio gan y gwasanaeth tân fel "eiddo domestig deulawr oedd yn cysylltu â ffermdy".

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod corff wedi ei ganfod yn yr eiddo ar ôl i'r fflamau gael eu diffodd.

Bu criwiau tân o Dregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Aberystwyth, Cei Newydd a Llandrindod yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu fod dyn 58 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i fod yn parhau yn y ddalfa.

map o leoliad y digwyddiad

Pynciau cysylltiedig