Achosion o danau gwyllt ar draws Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau tân wedi bod yn brwydro sawl tân gwyllt ar draws Cymru.
Fe gafodd swyddogion tân eu galw i Henllys, Cwmbrân am 9:28 bore dydd Sadwrn ac mi oedd criwiau tân dal yno yn y prynhawn.
Ddim yn bell o'r ardal honno roedd tân arall yn llosgi ar fynydd yng nghoedwig Cwm Carn yn y De Ddwyrain.
Fe gafodd y gwasanaeth tân wybod am y digwyddiad hwnnw am 11:08 bore dydd Sadwrn ac mae criwiau'n dal i frwydro'r fflamau yn y prynhawn hefyd.
Fe ddeliodd Gasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â digwyddiad arall hefyd ar bwys Llyn Syfaddan a ddechreuodd tua 14:19 ddydd Sadwrn.
Yn ogystal, roedd yna adroddiadau am gyfres o dannau gwair yn ardal y Gŵyr a Phont-y-pŵl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.