Gangiau cam-drin plant: 'Allwn ni ddim bod yn hunanfodlon'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud "na all yr un ohonom fod yn hunanfodlon" ynglŷn â gangiau yng Nghymru sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant.
Dywedodd Huw Irranca-Davies fod "gan Gymru ran bwysig iawn i'w chwarae" ond gwrthododd ag ymateb i alwadau am ymchwiliad Cymreig penodol.
Mae dynes oedd wedi dioddef ar ôl i gamdrinwyr feithrin perthynas amhriodol gyda hi, wedi galw am ymchwiliad i edrych ar faint y broblem yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad oes yna "unrhyw broblemau eang ar hyn o bryd gyda gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol" yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Ond dywedodd Mr Irranca-Davies "na allwn ni fyth fod yn hunanfodlon".
"Allwch chi byth ddweud na fydd hyn yn digwydd yn rhywle," meddai.
"Mae'n rhaid i chi ei drin â'r difrifoldeb yna, oherwydd dyna'r ffordd i osgoi cael dioddefwyr yn y dyfodol."
Mae'r ysgrifennydd cartref wedi cyhoeddi y bydd yna adolygiad o'r dystiolaeth am gangiau meithrin perthynas amhriodol, yn ogystal â phum ymchwiliad lleol – yn Oldham a phedwar ardal arall sydd eto i'w cyhoeddi.
Dywedodd Mr Irranca-Davies y bydd Llywodraeth Cymru yn "chwarae rhan lawn wrth gyfrannu at yr ymchwiliad yna".
Ond mynnodd ei bod hefyd yn bwysig i weithredu yn llawn ar y camau gweithredu o'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn 2022.
Mae Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes wedi bod yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru, gan eu cyhuddo o fod yn "rhy araf" wrth weithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad gwreiddiol.
Pleidiau'n galw am ymchwiliad
Dywedodd fod adroddiad yr Athro Alexis Jay ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant wedi'i glywed gan 6,000 o ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr ac mai'r flaenoriaeth oedd gweithredu argymhellion y "darn helaeth o waith hwnnw", yn hytrach nag ymchwiliad arall.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd Darren Millar wedi galw am ymchwiliad arall i edrych ar Gymru gyfan, gan ddadlau mai dim ond ar achosion yn Abertawe yr edrychodd adroddiad gwreiddiol Jay.
Mae Mr Millar wedi cyhuddo'r llywodraeth o beidio â chael "gafael ar y sefyllfa, er bod tystiolaeth glir bod camfanteisio'n rhywiol ar blant gan angiau wedi digwydd yma yng Nghymru".
Dywed Plaid Cymru y dylid cynnal "ymchwiliad heddlu Cymru gyfan ar unwaith", allai edrych eto ar achosion o gam-drin am dystiolaeth o ymddygiad o feithrin perthnasau amhriodol".
"Petai ymchwiliad o'r fath yn datgelu unrhyw awgrym o fethiant i edrych i mewn i batrymau cam-drin, fe fyddem wrth gwrs yn cefnogi ymchwiliad cyhoeddus ar unwaith."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod yn "cefnogi unrhyw beth a fydd yn sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwyr ac yn helpu i atal y gweithredoedd ofnadwy hyn rhag digwydd eto".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl