Galw am ymchwiliad i gangiau cam-drin plant yng Nghymru

Plentyn yn y ffenest Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys manylion am gam-drin rhywiol

Mae dynes o Gymru gafodd ei thargedu gan gangiau sy'n cam-drin plant wedi galw am ymchwiliad i ystyried maint y broblem yng Nghymru.

Cafodd profiad y ddynes, sy'n defnyddio'r ffugenw Emily Vaughn, ei godi yn y Senedd brynhawn Mawrth gan arwain at wrthdaro rhwng y Llywydd Elin Jones ac arweinydd y grŵp Ceidwadol.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fe wnaeth Emily gyhuddo Jones o "fychanu" ei stori.

Dywedodd Jones ei bod wedi bod yn "ceisio amddiffyn dioddefwyr".

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yna "broblemau eang presennol gyda gangiau sy'n cam-drin plant" yng Nghymru.

'Roedd e'n digwydd bron a bod bob dydd'

Bellach yn ei thridegau, dywedodd Emily iddi gael ei thargedu i ddechrau pan roedd hi'n 11 oed, ac yna ei cham-drin o 14 oed.

Dros y blynyddoedd canlynol dywedodd iddi gael ei chludo i Telford, Blackpool a llefydd yng Nghymru lle cafodd ei threisio dro ar ôl tro.

"Roedd e'n digwydd bron a bod bob dydd," meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru.

"Gyda cham-drin rhywiol mae pobl yn credu dy fod yn cael dy gludo i un lle, ac yn cael dy dreisio unwaith. Nid fel'na mae hi.

"Galli di gael dy dreisio hyd at ddeg gwaith gan ddynion gwahanol drwy'r amser, ac fel 'na ma' hi o hyd.

"Mae pobl yn credu taw dim ond treisio yw cam-drin rhywiol. Dydy hynny ddim yn wir. Ti'n cael dy gnoi, dy fwrw."

Mae'r pwnc o gangiau sy'n cam-drin plant wedi bod yn y penawdau ers dechrau'r flwyddyn ar ôl i sylwadau gan y biliwnydd Elon Musk arwain at alwadau o'r newydd gan y Ceidwadwyr a rhai aelodau seneddol Llafur ar i Lywodraeth y DU alw ymchwiliad cyhoeddus i'r mater.

Yn cefnogi'r galwadau, dywedodd Emily: "Mae'r troseddwyr yn glyfrach na'r heddlu. Maen nhw'n glyfrach na mae llawer o bobl yn ei feddwl ac mae pethau'n newid drwy'r amser.

"Mae'r cyhoedd angen bod yn ymwybodol ohono. Mae'r cyhoedd angen bod yn rhan ohono."

Pan ofynnwyd iddi oedd hi'n credu bod angen ymchwiliad penodol i Gymru, dywedodd Emily: "Dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sydd wedi ei angen ers amser hir."

"Mae llawer o bethau'n digwydd yng Nghymru nad ydy pobl yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae yna lawer yng Nghymru i ddod allan."

'Anodd' gwylio'r drafodaeth

Cafodd y pwnc ei godi yn y Senedd ddydd Mawrth gan arweinydd y grŵp Ceidwadol Darren Millar.

Wrth holi Prif Weinidog Cymru fe gyfeiriodd Millar at brofiad Emily gan arwain at ffrae gyda Llywydd y Senedd, Elin Jones.

Fe wnaeth hi gyhuddo Millar o roi gormod o fanylion a dywedodd ei fod "yn agos at beidio â bod yn hollol barchus tuag at y dioddefwr".

Ychwanegodd bod angen osgoi iaith ymfflamychol.

Mynnodd Millar nad oedd yn ceisio "ymfflamychu unrhyw beth" a'i fod ond yn ceisio "dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif".

Dywedodd Emily ei bod hi wedi bod yn "anodd" gwylio'r drafodaeth.

"Roedd e'n teimlo fel ei bod hi'n ceisio bychanu fy mhrofiad i a phrofiadau dioddefwyr eraill hefyd."

"Roedd hi'n amlwg yn credu na fyddwn i eisiau iddo fe ddweud unrhyw beth fel 'na, ond roedd e'n dweud y pethau cywir achos mae'n rhaid trafod hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pwnc ei godi yn y Senedd ddydd Mawrth gan arweinydd y grŵp Ceidwadol Darren Millar

Mewn datganiad dywedodd Jones taw ei bwriad oedd "ceisio amddiffyn dioddefwyr".

"Rwy'n deall nawr bod Emily Vaughn wedi siarad yn gyhoeddus am ei phrofiad. Doeddwn i ddim yn ddigon ymwybodol o hynny ar y pryd.

"Rwy'n cymeradwyo Emily Vaughn am drafod ei phrofiad yn gyhoeddus, ac rwy'n ei chefnogi hi a menywod a merched eraill wrth iddyn nhw geisio sicrhau cyfiawnder."

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper, bellach wedi galw am adolygiad o'r dystiolaeth yn ymwneud â gangiau sy'n cam-drin plant yn ogystal â phump ymchwiliad lleol yn Oldham a phedair ardal arall nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Lywodraeth Cymru sy'n dweud ei bod "yn parhau i wneud popeth y gall i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn ddiogel".

Dywedodd y Llywodraeth hefyd ei bod wedi "cael sicrwydd gan heddluoedd Cymru nad oes problemau eang presennol gyda gangiau sy'n cam-drin plant".

Ddydd Gwener dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes wrth BBC Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "rhy araf" yn cyflwyno argymhellion adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol gafodd ei gyhoeddi yn 2022.

Mwy ar Politics Wales am 10.00 ar 19 Ionawr ac ar iPlayer

Os yw'r eitem wedi achosi loes i chi fe fedrwch chi gysylltu â llinell gymorth trwy fynd i wefan BBC Actionline.

Pynciau cysylltiedig