'Bydis iard' i helpu disgyblion iau sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol

Disgyblion Ysgol Glantaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi derbyn hyfforddiant drwy elusen ‘Bullies Out' i geisio atal bwlio

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi sefydlu cynllun arbennig i ddisgyblion helpu ei gilydd i atal bwlio.

Mae rhai o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi derbyn hyfforddiant drwy elusen ‘Bullies Out' i geisio atal bwlio.

Mae bathodynnau'r 'bydis iard' yn dangos pwy sydd ar gael ac yn barod i wrando a helpu unrhyw un mewn angen - yn enwedig disgyblion ieuengaf yr ysgol.

Ar raglen Dros Ginio, soniodd Bleddyn, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 9, bod “bwlio yn rhywbeth sy’n digwydd ym mhobman".

"Ond dwi’n meddwl bod e’n digwydd mwy ym mlwyddyn 7 oherwydd bod plant yn newydd i’r ysgol," meddai.

Yn ôl Beca Newis, pennaeth cynorthwyol Ysgol Glantaf, mae rhywbeth tebyg eisoes yn digwydd gyda'r disgyblion hŷn.

"Mae gyda ni gynllun tebyg yn y chweched dosbarth lle mae 'na fentoriaid cymar yn gweithio ar lefel un i un," meddai.

"O’n i eisiau dechrau datblygu’r arweinyddiaeth yma ymysg ein disgyblion iau ni, achos mae’r ymchwil i gyd yn dangos bod plant yn fwy tebygol o fynd at berson ifanc arall i drafod eu problemau yn hytrach nag at athrawon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae’r disgyblion yn gwisgo bathodynnau porffor sy’n dangos eu bod ar gael i helpu

Dydy bwlio ddim yn broblem newydd, ond mae’n broblem sy’n newid gyda’r oes fodern.

“Pan ro’n i’n yr ysgol, pan roeddech chi’n mynd adre, roedd y bwlio yn stopio yn yr ysgol," meddai Ms Newis.

"Ond wrth gwrs, mae’r bwlio’n gallu parhau ar-lein ac mae’n ddi-stop i rai disgyblion.”

Effaith bwlio yn aros

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Nia Williams, mae rhai unigolion yn "gallu parhau ac yn cario’r negesueuon cas yna trwy gydol eu bywyd"

Mae Dr Nia Williams, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, yn teimlo bod effaith bwlio yn gallu aros a pharhau gyda’r unigolyn am amser hir.

“Mae sylwadau cas yn gallu mewnblannu’n ddyfn mewn unigolion, ac mae’r unigolion hynny’n gallu parhau ac yn cario’r negeseuon yna, rai ohonyn nhw trwy gydol eu bywyd," meddai.

Bwlio yn y gweithle

Mae Dr Williams hefyd yn teimlo bod edrych yn fanylach hefyd ar yr un sy’n gwneud y bwlio, bod targedu ymddygiad y bwli yr un mor bwysig â helpu’r dioddefwr.

“Mae angen edrych yn ddyfnach a gweld be 'di’r rheswm tu cefn pam bod yr unigolion yma yn bwlio," meddai.

“Yn aml iawn, dydy’r plant neu’r bobl ifanc sy’n bwlio ddim yn hapus iawn o ran y pethau sy’n mynd ymlaen yn eu bywyd nhw, felly mae nhw’n dueddol o dynnu hyn allan ar unigolion eraill."

Cyngor Bleddyn ydy i unrhyw un sy’n cael ei fwlio ydy i ddechrau siarad a rhannu’r broblem.

“Byswn i’n dweud bod dweud wrth rywun yn rywbeth da i’w wneud oherwydd mae gallu siarad am y peth yn gallu tynnu chydig o’r boen off chi."