Cyngor yn addo trwsio arwydd ffordd gyda sticer 'Nid yw Cymru ar werth'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Môn wedi addo trwsio arwydd ffordd sydd wedi ei ddifrodi gyda phaent a sticer 'Nid yw Cymru ar werth'.
Mae gan yr arwydd sy'n croesawu pobl i Fiwmares - tref sy'n boblogaidd gyda thwristiaid - hysbyseb "eiddo ar werth" uwch ei ben.
Ond mae'r gair 'Beaumaris' wedi ei ddifrodi gyda phaent coch, ac mae sticer 'Wales is not for sale' wrth ei ochr.
Nid yw'n glir pryd y cafodd ei ddifrodi, ond y gred yw iddo fod yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.
Mae'n ymddangos bod y sticer yn hybu barn ymgyrchwyr Cymraeg, sydd wedi bod yn bryderus ers tro am nifer yr ail gartrefi a phrisiau tai uchel, sydd, medden nhw, yn gyrru pobl leol i ffwrdd.
Mae Biwmares yn adnabyddus am fod â nifer uchel o dai haf ac eiddo Airbnb.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai'r arwydd yn cael ei "lanhau a’i adfer i’w gyflwr gwreiddiol cyn gynted â phosib".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023