Marwolaeth dyn, 25, o Wynedd ym Malta yn 'ergyd ofnadwy' i'r teulu

Dywedodd tad Kieran Hughes bod ganddo "ddyfodol disglair o'i flaen"
- Cyhoeddwyd
Mae tad dyn 25 oed o Wynedd a fu farw ym Malta wedi dweud bod ei farwolaeth yn "ergyd ofnadwy" i'r teulu.
Cadarnhaodd Heddlu Malta mai Kieran Thomas Hughes o ardal Caernarfon a fu farw ar ôl disgyn oddi ar falconi.
Cafodd yr heddlu ym Malta eu galw i westy yn Triq Spinola, St Julian's am tua 04:15 fore Gwener, 11 Gorffennaf.
Fe wnaeth aelodau'r tîm meddygol gadarnhau y bu farw ar y safle.

Dywedodd ei dad, Alan Hughes, bod y teulu'n ddiolchgar am yr holl negeseuon o gefnogaeth, ond gofynnodd am breifatrwydd.
Ychwanegodd bod y teulu'n dal i aros am fwy o wybodaeth gan yr awdurdodau yn Malta.
Dywedodd Mr Hughes bod Kieran, sy'n efaill, yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd a bod ganddo "ddyfodol disglair o'i flaen".
Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi siarad gyda Mr Hughes, a dywedodd bod y newyddion yn "dorcalonnus".
Mewn datganiad cynharach, dywedodd Sian Gwenllian, sy'n cynrychioli Arfon yn y Senedd bod y digwyddiad yn "wirioneddol erchyll".
"Mae'n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl