Taith Cymru yn Euro 2025 ar ben ar ôl colli yn erbyn Lloegr

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru allan o Euro 2025 yn dilyn colled o 6-1 yn erbyn Lloegr yn Y Swistir nos Sul.
O flaen torf o dros 15,000 yn St. Gallen, daeth y gwahaniaeth mewn safon rhwng y ddau dîm i'r amlwg wrth i Loegr reoli'r chwarae.
Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn siomedig mai camgymeriadau unigol unwaith eto oedd yn gyfrifol am sawl gôl ar y noson.
Ond roedd na gôl gofiadwy i Hannah Cain yn yr ail hanner, ac fe fydd y bencampwriaeth yn cael ei chofio fel un hanesyddol wrth i ferched Cymru wneud eu hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan mwyaf.
Cryfder Lloegr yn ormod i Gymru
Ni chafodd y Cymry ddechrau da i'r gêm wrth i VAR ymyrryd ym mhenderfyniad y dyfarnwr i roi cic rydd i Loegr am drosedd gan Carrie Jones.
Dangosodd VAR bod y drosedd ar Georgia Stanway yn y cwrt cosbi, ac fe bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn.
Cododd Stanway ar ei thraed i rwydo heibio Olivia Clark a rhoi Lloegr ar y blaen ar ôl 13 munud.

Georgia Stanway sgoriodd gôl gyntaf y noson o'r smotyn
Llai na 10 munud yn ddiweddarach roedd Lloegr wedi dyblu'r fantais, wrth i Rhiannon Roberts fethu â chlirio pêl yn y cwrt.
Alessia Russo oedd yna i reoli a phasio i Ella Toone sgorio i gornel y rhwyd.
Roedd Cymru'n ei chael hi'n anodd dianc o'u hanner ar gyfnodau, ond roedd fflachiadau o obaith gyda chyflymder Ffion Morgan yn fygythiad i amddiffyn Lloegr.
Llwyddodd i ganfod Jess Fishlock yng nghwrt Lloegr, a greodd gyfle i Angharad James ergydio a gorfodi Hannah Hampton i wneud arbediad da i'w chwith.

Sgoriodd Ella Toone un gôl a chreu dwy ar y noson
Ond cyn bod hanner awr ar y cloc roedd hi'n 3-0 a'r fuddugoliaeth yn sicr i Loegr.
Croesiad Toone o'r dde wnaeth ganfod Lauren Hemp ar y postyn pellaf - a'i pheniad hi yn rhy gryf i Clark yn y gôl i Gymru.
Fe wnaeth Cymru dynhau'r amddiffyn, ond funudau cyn yr egwyl fe wnaeth Ella Toone yr un rhediad i lawr y dde heb ddenu sylw amddiffynnwr.
Pasiodd ar draws wyneb y gôl i i Russo ei gwneud hi'n 4-0 cyn yr egwyl.
Aeth Cymru'n agos ddwywaith yn eiliadau olaf yr hanner, wrth i ergyd Rachel Rowe o ymyl y cwrt hedfan dros y trawst, cyn i Fishlock fethu a tharo'r targed yn dilyn chwarae blêr gan golwr Lloegr.

Hannah Cain (chwith) sgoriodd wedi gwaith da Jess Fishlock
Golwr Cymru Clark wnaeth achub y cochion yn gynnar yn yr ail hanner, wrth iddi gael blaen ei bysedd at foli Jess Park a'i wthio ar y postyn.
Roedd hynny'n sbardun i Gymru wella eu perfformiad ar ôl yr egwyl ac amddiffyn yn gryfach a chynnig rhagor o fygythiad i gôl Lloegr.
Ond daeth cryfder a dyfnder carfan Lloegr i'r amlwg yn y pendraw, wrth i'r eilydd Beth Mead reoli a throi yn y cwrt cyn rhwydo heibio Clark am bumed gôl y Saeson.
Roedd 'na foment i'w chofio i Gymru pan sgoriodd Hannah Cain ail gôl y tîm yn y bwncampwriaeth.
Fishlock wnaeth ei chreu gan redeg yn bwerus drwy amddiffyn Lloegr a phasio i'r eilydd Cain ar y chwith.
Ergydiodd Cain ar y cyffyrddiad cyntaf ar draws y gôl ac i mewn i gornel uchaf y rhwyd.
Roedd gôl hwyr iawn gan Aggie Beever-Jones i'w gwneud hi'n 6-1 i Loegr erbyn y chwiban olaf, gan olygu mai'r Saeson a Ffrainc sy'n symud ymlaen i'r rownd nesaf o Grŵp D.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.