Dyn wedi marw 'ar ôl i fin, yr oedd wedi dringo iddo, gael ei wagio i lori'

Fe wagiodd y lori yr hyn oedd ynddi - gan gynnwys Mr Maceljuch, yn iard Thorncliffe yn Alltami
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn ar ôl i fin ailgylchu, yr oedd wedi dringo i mewn iddo, gael ei wagio i lori wastraff, clywodd cwest yn Llys y Crwner Rhuthun.
Cafodd Vitalij Maceljuch, 36, ei ganfod yn farw mewn depo ailgylchu yn Alltami ger Yr Wyddgrug yn 2024.
Cafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng yn edrych mewn i fin ailgylchu am gardfwrdd y tu ôl i siop ceginau yng Nghaer yn ystod oriau mân bore 10 Mai ac mae'n debygol ei fod wedi dringo i mewn iddo.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw cafodd y bin ei gasglu gan lori wastraff Biffa - roedd y lori yn cael ei gyrru gan Richard Connolly.

Cafodd y cwest ei gynnal yn Llys y Crwner Rhuthun
Clywodd y cwest fod Mr Connolly wedi dweud wrth Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei fod wedi edrych i mewn i'r bin, wedi gweiddi rhag ofn bod unrhyw un y tu mewn ac wedi ysgwyd y bin ar ffyrc ei lori cyn gwagio ond nad oedd wedi gweld unrhyw un.
Ar y pryd ni sylwodd Mr Connolly ar Mr Maceljuch yn disgyn i'w lori, ond dangosodd camera cylch cyfyng y cerbyd, yn ddiweddarach, ei gorff yn syrthio i mewn.
Fe wagiodd y lori ei chynnwys - oedd yn cynnwys Mr Maceljuch, yn iard Thorncliffe yn Alltami ac yn ddiweddarach cafodd ei wthio i bentwr mawr gan dryc, ei godi i fyny gan grafanc a'i ollwng ar gludfelt.
Roedd yr aelodau o'r staff a welodd gorff Mr Maceljuch ar y cludfelt yn meddwl mai model (mannequin) ydoedd i ddechrau.
Ond ar ôl archwiliad agosach mi welon nhw mai corff ydoedd ac fe gysyllton nhw gyda Heddlu'r Gogledd.
'Marw trwy anffawd'
Cafodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wybod hefyd ac fe gynhalion nhw ymchwiliad eu hunain.
Edrychon nhw ar wahanol gamerâu cylch cyfyng gan ganfod ble roedd Mr Maceljuch wedi dringo i'r bin.
Roedd arwyddion rhybuddio y tu allan i ystafell arddangos Wren Kitchen yng Nghaer yn rhybuddio pobl i beidio â mynd i mewn i'r biniau, oherwydd perygl marwolaeth.
Daethant i'r casgliad nad oedd unrhyw un oedd yn gysylltiedig â'r safle, na gyrrwr y lori, wedi torri unrhyw ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Daeth yr archwiliad post mortem i'r casgliad fod gan Mr Maceljuch, dinesydd Tsiec wedi'i eni yn Wcráin yn 1987, olion canabis ac amffetaminau yn ei waed ar adeg ei farwolaeth.
Clywodd y crwner cynorthwyol, David Lewis, y gallai'r sylweddau fod wedi cyfrannu at "ddiffyg ymwybyddiaeth o'r hyn oedd yn digwydd o'i amgylch".
Bu farw Mr Maceljuch o anafiadau difrifol i'w ben a'i wddf, oedd yn debygol o fod yn ganlyniad o gael ei wasgu gan y lori sbwriel.
Daeth y crwner i'r casgliad ei fod wedi marw trwy anffawd.
Dywedodd bod anffawd yn cael ei ddiffinio fel "pan fydd gweithredoedd bwriadol yn cael canlyniadau anfwriadol, fel Mr Maceljuch yn rhoi ei hun yn y bin heb y bwriad o ddod â'i fywyd i ben".
Ychwanegodd "neu weithredoedd gyrrwr y lori a gododd y bin heb sylweddoli bod unrhyw un y tu mewn iddo".
Cydymdeimlodd y crwner â theulu Mr Maclejuch.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.