Iawndal o £17,000 i ddyn gafodd ei alw yn 'od' gan gyflogwr

Y FenterFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Y Fenter yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, yn bennaf i blant a phobl ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr mewn canolfan chwarae i blant wedi derbyn dros £17,000 mewn iawndal ar ôl i'w gyflogwr ei alw'n "od".

Yn 2023 fe wnaeth Nicholas James, sydd ag awtistiaeth, gwyno ei fod yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar ei waith yng nghanolfan Y Fenter yn Wrecsam oherwydd bod cerddoriaeth yn cael ei chwarae.

Clywodd tribiwnlys cyflogaeth yng Nghaerdydd fod prif swyddog y ganolfan, Malcolm King wedi dweud: "Pam na alli di fod yn berffaith fel y gweddill ohonom ni?

"Ond na, wir rŵan, gan fy mod i hefyd wastad wedi bod ychydig yn od (weirdo) fy hun, dwi'n gallu cydymdeimlo."

Dywedodd y barnwr Stephen Jenkins fod y sylwadau yn "amhriodol" o ystyried rôl Mr King, a bod y hynny wedi cael effaith ar urddas Mr James.

Cael ei 'ddiystyru oherwydd ei gyflwr'

Mae Y Fenter yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, yn bennaf i blant a phobl ifanc.

Fe wnaeth Mr James erlyn yr elusen ar ôl iddo gael ei wahardd o'i waith, gan honni ei fod yn "gyson yn cael ei ddiystyru oherwydd ei gyflwr".

Clywodd y tribiwnlys fod Mr King - mewn digwyddiad ar wahân ar 9 Chwefror 2024 - wedi cwestiynu gallu Mr James i weithio mewn sesiynau agored, gan gymharu hynny â rhywun yn methu gweithio ar ôl yfed alcohol.

"Roedd y sgwrs yn ymwneud â phryderon Mr King am y posibilrwydd y byddai gallu'r hawlydd i wneud ei waith a gofalu am blant yn cael ei amharu gan ei iechyd meddwl," meddai'r Barnwr Jenkins.

"Roedden ni'n teimlo nad oedd y pryder hwnnw wedi cael ei drin o ddifrif gan Mr King wrth iddo gymharu rhywun yn dioddef yn eu gwaith gyda rhywun oedd â hangover."

Fe wnaeth y barnwr gytuno yn rhannol gyda honiad Mr James ei fod wedi wynebu gwahaniaethu ar sail anabledd, a bod y cwmni wedi methu a chyflwyno newidiadau addas.

Cafodd Y Fenter orchymyn i dalu iawndal gwerth £17,154.86, gan gynnwys £15,000 am frifo teimladau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig