Pryder lleol am effaith cynllun weiren wib Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynnig i adeiladu atyniad twristiaeth yn Abertawe yn dweud bod y cynlluniau'n “dorcalonnus”.
Gobaith cwmni Skyline Enterprises yw gosod weiren wib (zip wire), ceir cebl, a chaffi ar Fynydd Cilfái.
Mae rhai busnesau lleol yn croesawu'r cynlluniau, gan ddweud y bydd yn denu mwy o ymwelwyr i'r ddinas ac yn hybu’r economi.
Ond yn ôl ymgyrchwyr, byddai'r datblygiad yn effeithio ar fywyd natur, ac yn rhwystro mynediad pobl i ardal werdd agored yn y ddinas.
Dywedodd Cyngor Abertawe y bydd y cynlluniau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac y bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
Mae Mynydd Cilfái yn goetir cymunedol sy'n cael ei reoli gan Gyngor Abertawe, Gwirfoddolwyr Coetir Cymunedol Mynydd Cilfái a Chyfoeth Naturiol Cymru.
O ben y mynydd mae modd gweld golygfeydd panoramig o Fae Abertawe, y marina a chanol y ddinas.
Dywedodd Skyline Enterprises y byddai'r prosiect yn effeithio ar oddeutu 10% o arwyneb y mynydd ac y bydd mynediad dirwystr i'r safle yn parhau.
Yn ôl ymgyrchwyr lleol sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, roedd tua 300 o bobl wedi ymgasglu ar y bryn ddiwedd mis Mawrth er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd.
Dywedodd Sarah Ayres, sy'n byw yn agos at y mynydd ac yn aml yn cerdded yn yr ardal gyda’i phlant, y dylai'r safle fod "ar gael i bawb".
“Mae pobl yn dod yma i gael moment o heddwch. Mae’n dda i iechyd meddwl pobl, ac mae llawer o bobl yn cerdded gyda'u cŵn yma," meddai.
“Mae’r ardal yma mor bwysig. Mae’n bwysig i gadw e fel y mae ar gyfer bywyd gwyllt a byd natur.
“Beth os yw’r prosiect yn rhywbeth sydd yn just ‘flash yn y pan'? Mae pobl angen yr ardal yma i gerdded heb unrhyw rwystrau.
"Mae’n cael ei defnyddio gan nifer o bobl pob dydd."
Mae cais cynllunio gan gwmni Skyline Enterprises yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Gyngor Abertawe.
Yn ôl adroddiad economaidd a gafodd ei gyhoeddi gan y cwmni'r llynedd, byddai’r prosiect yn creu 100 o swyddi ac yn cyfrannu tua £84m i'r economi leol dros 15 mlynedd.
Y gred yw y byddai'r cynllun yn costio rhwng £34m-£40m, gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4m.
Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi neilltuo £8m ar gyfer y prosiect.
'Denu twristiaeth yn hynod o bwysig'
Mae'r cynlluniau'n dangos y byddai mynediad i ran o'r atyniad yn cael ei leoli ger distyllfa newydd Penderyn yn ardal Glandŵr.
Fe agorodd y safle y llynedd ac mae Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid Penderyn, yn croesawu’r datblygiad.
“Fel busnes, rydyn ni’n credu bod denu twristiaeth i’r ardal yma o Abertawe yn hynod o bwysig," meddai.
“Wrth gwrs os oes busnesau eraill yn dod i’r safle yma bydd hynny’n denu mwy o dwristiaeth ac ymwelwyr i’r ardal."
Ychwanegodd: “Mae twristiaeth fel sector yn bwysig i economi Cymru ac mae prosiectau fel hyn yn bwysig.
“Mae’r ardal yma yn ardal hanesyddol, yr hen ardal lle'r oedd gwaith copr Abertawe, felly ni’n rhoi ail fywyd i’r safle hyn tra’n cadw’r hanes.
“Gobeithio bydd y datblygiad hwn yn helpu’r economi leol, yn cefnogi pobl leol hefyd, ond mae hefyd yn bwysig gwrando ar bryderon pobl.”
'Dyw e ddim yn deg'
Ond mae Jessica Pitman, sy’n byw yn y ddinas, yn poeni am lwyddiant hirdymor y cynllun.
“Fi’n dod o’r cymoedd a fi wedi gweld yn uniongyrchol sut mae busnesau yn trial creu rhywbeth mewn ardal, ac wedyn dyw e ddim yn llwyddiannus ac mae’r cwmni jest yn gadael,” meddai.
“Fi wedi gweld nifer o gwmnïau yn mynd a dod a gadael llanast yn yr ardal. Mae lan i’r bobl leol wedyn i ddelio gyda hynny.
“Dyma’r unig le gwyrdd yn yr ochr yma o Abertawe. Mae’n rhad ac am ddim i ddod lan yma.
"Mae’r ardal hyn yn ardal dlawd a bydd pobl leol methu fforddio prynu tocynnau. Dyw e ddim yn deg.”
Dywedodd cwmni Skyline y byddai’r holl lwybrau troed a’r pwyntiau mynediad presennol i Fynydd Cilfái yn parhau, gyda mynediad rhydd a dirwystr yn parhau i’r rhai sydd eisiau defnyddio’r mynydd.
Mewn datganiad, dywedodd Danny Luke, o Skyline Enterprises bod y cwmni “wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan y cyhoedd am y buddion y byddai’r atyniad yn eu cynnig".
Ychwanegodd: “Mae nifer o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn wedi canmol y cynlluniau, gan ddweud y byddai’n agor ardal lle nad ydyn nhw erioed wedi cael mynediad iddi o’r blaen.
“Mae asesiadau amgylcheddol helaeth wedi’u cynnal gyda’n partneriaid yn ne Cymru i sicrhau y byddai’r safle’n cael ei ddatblygu’n gynaliadwy, gan gyfrannu at fwy o fioamrywiaeth ar y safle."
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
Ychwanegodd y datganiad: “Mae safleoedd Skyline ar draws y byd yn dod â llwyddiant economaidd, addysgol a chymdeithasol i'w hardaloedd.
"Nid ydym erioed wedi gorfod cau safle Skyline ac rydym yn falch o redeg busnesau hamdden hynod lwyddiannus ar draws Seland Newydd, Malaysia, Canada, Singapore a De Corea.
“Byddem wrth ein bodd pe bai Abertawe'n dod yn rhan o'r stori lwyddiant honno."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: “Bydd holl sylwadau’r cyhoedd yn cael eu hystyried gan y cabinet pan fydd yn cyfarfod i wneud penderfyniad ar y mater.
“Bydd unrhyw gynnig gan Skyline hefyd yn destun cais cynllunio a fydd yn agored ar gyfer rownd bellach o ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddo gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio’r cyngor.”