Dyn 20 oed o Wrecsam wedi boddi yn Y Bermo - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dyn 20 oed oedd wedi bod yn nofio yn y môr yn Y Bermo.
Cafodd Mohamad Alkadour, cogydd oedd yn byw yn Wrecsam ond a gafodd ei eni yn Syria, ei achub o'r tonnau ar ôl bod ar goll am ddwy awr.
Fe geisiodd y gwasanaethau brys i'w adfywio ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw yno yn ddiweddarach.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn digwydd i'r hyn ddigwyddodd.
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon ddydd Llun fod Mr Alkadour wedi ymweld â'r Bermo gyda'i ffrindiau ar 27 Mai eleni.
Dywedodd y crwner, Kate Robertson: "Mae'n ymddangos bod rhai tonnau wedi ei daro gyda rhywfaint o rym a'i wthio oddi tano.
"Cafodd ei ddarganfod dwy awr yn ddiweddarach ar ôl i Wylwyr y Glannau a’r heddlu chwilio amdano."
Ychwanegodd bod archwiliad post mortem wedi digwydd ac mai achos y farwolaeth oedd boddi.