3 Llun: Lluniau pwysicaf Nia Parry
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y cyflwynydd Nia Parry sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma..
Dyma fi efo fy mrawd Dylan a fy nghyfnither Rhian, a Jim - ci Nain Madge a Taid Tal Sarn.
Mi oedd Nain a Taid yn byw drws nesa i ni ac mi oeddwn i wrth fy modd efo Jim ac efo'r holl geffylau odd ar y fferm.
Cafodd y llun yma ei dynnu ar Lôn Tŷ Cerrig odd dafliad carreg o'n cartre' ni yn Dwyran, Ynys Môn - lle fuon ni'n byw nes oeddwn i'n bump oed.
Mam a Dad wnaeth adeiladu'r tŷ yn Dwyran ac mae gen i lawer o atgofion hyfryd o fyw yno.
Ar Lôn Tŷ Cerrig oeddwn i'n mynd am dro yn y goets efo Mam a Dad a Nain Sally a Taid Bob, ac ar hyd y lôn yma wnes i ddysgu i reidio beic.
Dyl a Rhi ydy dau o'r bobl bwysica i fi yn y byd hyd heddiw ac mae gen i atgofion plentyndod mor hapus o fod efo nhw.
Dw i ddim yn edrach yn hapus iawn yn y llun, ond dwi'n licio fel dw i'n gafael yn dynn am Dyl.
Ar ôl bod yn y Brifysgol yn Abertawe mi es i i deithio - i India, Nepal, Israel, Yr Aifft a Thwrci.
Teithio ydy'r addysg a'r profiad bywyd gorau erioed ac yn ystod y cyfnod yma dwi'n teimlo mod i wedi tyfu fel person. Bues i'n byw yn Istanbul am naw mis yn dysgu Saesneg yno ac mi oeddwn i wrth fy modd.
Dyna lle wnes i benderfynu mai tiwtor Cymraeg oeddwn i am fod.
Dwi'n cofio teimlo mor gysurus pan oedd y bag ar fy nghefn a finna'n gwybod mod i ar gychwyn i'r lleoliad nesa.
Cyn dod adre mi dreuliais i fis yn teithio o amgylch Twrci ac yma dw i'n dringo dros y bryn i Kayaköy, Fethiye a dwi'n cofio cyrraedd pen y bryn a theimlo y gallwn i gyflawni unrhyw beth mewn bywyd.
Y swydd gyntaf gesh i yn y byd teledu oedd cyflwyno cyfres o'r enw Welsh in a Week, lle roeddwn i'n dysgu Cymraeg i rywun am wythnos er mwyn eu paratoi nhw i gyflawni her yn Gymraeg yn y gwaith.
Mi oeddwn i wrth fy modd efo'r antur newydd hon ac mi wnes i gyflwyno'r gyfres am bron i chwe blynedd yn ogystal â'r gyfres Cariad@Iaith.
Rhain oedd uchafbwyntiau fy ngyrfa i. Dw i'n dal i ystyried fy hun yn lwcus iawn i fod wedi cael gyrfa yn cyfuno dau faes dwi'n angerddol amdanyn nhw - dysgu Cymraeg a'r cyfryngau Cymraeg.
Yr iaith Gymraeg ydy bob dim i fi, heb os.
Dw i wrth fy modd efo pennawd yr erthygl yma hefyd... 'Spread the Word of Welsh'.
Hyd heddiw, dw i, fel miloedd o Gymry eraill yn trio gwneud hyn.
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023