3 llun: Lluniau pwysicaf Dafydd Lennon

Dafydd LennonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Cymru Fyw ofynodd y cwestiwn i Dafydd Lennon, un o gyflwynwyr Cyw ar S4C ers 2022.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pan oeddwn yn gweithio fel ffotograffydd ar longau mordaith, un o'm mannau galw cyntaf oedd Olden, Norwy. Yma penderfynais dynnu llun o'r olygfa hardd trwy lens arall, yna gwrthdroi'r llun cyfan i gael yr effaith hon.

Argraffwyd y ddelwedd hon ar gynfas i ddangos lluniau ac arddull y ffotograffwyr eu hunain i westeion. Mae'n atgof cyson nid yn unig o'r diwrnod gwych a gefais yn Olden, ond hefyd y ddwy flynedd yn arnofio o gwmpas y byd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dyma lun a dynnais o’r ffotograffwyr a’r staff a weithiodd ar arddangosfa ‘Steve McQueen Year 3’ yn Tate Britain. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i ni gyd gwrdd a'n gilydd, gan gynnwys Syr Steve McQueen yn y canol. Cawsom bryd o fwyd y noson honno ac roedd angen llun grŵp. Gosodais gamera i fyny ar gadair y tu allan i'r bwyty a gosodais hunan-amserydd.

Er mawr syndod i mi, roedd y llun yn berffaith! Pawb yn gwenu â dannedd, pob llygad ar agor, amlygiad perffaith, yn deilwng o le yn yr arddangosfa gyda'r 3128 o luniau eraill.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Roeddwn i yng nghanol beicio o gwmpas Cymru pan dynnais y llun hwn. Y diwrnod cynt roeddwn i wedi beicio 60 milltir dros bob math o dir ac roedd angen gwell dydd heddi.

Tynnwyd y llun hwn ar lwybr beicio Ystwyth, y rhan llyfnaf a sythaf o'm holl siwrnai. Rhoddodd amser i mi ymlacio wrth seiclo a gwerthfawrogi’r harddwch syml sydd gennym yma yng Nghymru.