Pryderon am gynnwys Cymraeg ar 'X' ers yr ail-frandio

Logo X a baner Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na awgrym fod sefydliadau yn dewis gadael X yn sgil lledaeniad camwybodaeth

  • Cyhoeddwyd

Ers i Twitter droi'n X, mae 'na "bryder enfawr" nad oes cymaint o ddefnyddwyr yn gweld cynnwys Cymraeg.

Yn ôl arbenigwyr digidol, mae’n “her newydd i’r Gymraeg” gyda rhai sefydliadau fel Heddlu'r Gogledd yn penderfynu y byddan nhw'n dod â'u cyfrif i ben gan ddweud nad yw negeseuon yn cyrraedd cymunedau Cymraeg fel o'r blaen.

Fe ddaw hyn ar ôl i’r biliwnydd Elon Musk brynu’r cwmni y llynedd, gyda rhai - gan gynnwys Aelodau Seneddol - yn gadael X oherwydd camwybodaeth.

Mae X wedi cael cais am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman, yn poeni am ledaeniad camwybodaeth

Yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r llu yn mynd i ddileu eu cyfrif yn llwyr ar X oherwydd “gwerthoedd” y platfform a lledaeniad camwybodaeth.

"Mae'n debyg nad yw'n rhannu'r un gwerthoedd a ni fel sefydliad ac rwy'n poeni nad yw weithiau'n portreadu'r wybodaeth gywir i'n cymunedau,” meddai Amanda Blakeman.

"Yn ogystal, mae'n debyg nad yw’n cyrraedd ein cymunedau Cymraeg mor rhwydd ag y mae pobl eraill ac rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i ni," ychwanegodd.

"Mae angen i ni fel gwasanaeth allu cyfathrebu yn gyflym, ac yn hawdd gyda'n cymuned i'w diweddaru, i roi gwybodaeth, ac i ateb cwestiynau, ond mae'r platfform hwnnw wedi dod yn le mwy heriol i wneud hynny yn y misoedd a blynyddoedd diwethaf.

“Felly rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ystod o lwyfannau fel y gallwn ni helpu a chefnogi ein cymunedau.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Marshall wedi gweld gostyngiad sylweddol yng nghyrhaeddiad y negeseuon mae e'n eu rhannu

Yn yr un modd, mae un arbenigwr digidol sy’n gyfrifol am gyfrif 'Yr Awr Gymraeg' ar X - sydd â dros 14,000 o ddilynwyr - hefyd yn poeni nad yw gymaint o bobl yn darllen negeseuon sy'n hyrwyddo cynnwys Cymraeg.

“Ar un adeg o'dd y cyrhaeddiad yn cyrraedd cannoedd o filoedd o gyfrifon ond yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf mae lefel yr ymwneud â rhannu negeseuon yr Awr Gymraeg a negeseuon yn Gymraeg yn gyffredinol wedi gostwng yn sylweddol,” meddai Huw Marshall.

“Mae yna sawl ffactor ar waith. Yn gyntaf ers i Elon Musk brynu fo mae’r llwyfan wedi mynd yn fwy tocsig ac mae llai yn ymwneud ag ef, a dwi’n cael y teimlad mai algorithmau X sy’n lleihau cyrhaeddiad cynnwys yn Gymraeg.

“Mae’n rhoi’r argraff bod 'na rhywbeth mwy ar waith. Dydi o ddim byd sinistr, ond yn amlwg maen nhw eisiau gwthio negeseuon sy’n mynd i fod yn boblogaidd, felly maen nhw’n mynd i flaenoriaethu ieithoedd mwy poblogaidd fel Saesneg.

“Mae’n rhoi her newydd i’r Gymraeg ac mae’n bryder enfawr.”

'Alla i ddim ymddiried yn y platfform'

Ers i’r biliwnydd Elon Musk brynu’r cwmni am $44bn, mae ei gyfraniadau cyson a dadleuol yn golygu bod rhai wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r platfform.

Yn ôl X, mae 250 miliwn o bobl yn defnyddio'r platfform yn ddyddiol.

Ond yn ol Owen Williams, sy'n arbenigwr ar wefannau cymdeithasol, mae newid amlwg wedi bod ers i Twitter newid i X yn 2023.

“Dyw’r platfform ddim yn gallu cael ei ymddiried ynddo. Dyw e ddim fel Twitter fel oedd e. Mae lot o gynnwys ffug, gwybodaeth a newyddion ffug i gael,” meddai.

“Mae’r asgell dde yn cael mwy o rwydd hynt i ddweud fel y mynnon nhw. Roedd cyfrifon a gafodd eu gwahardd gan Twitter o'r blaen wedi cael dychwelyd i'r platfform gan Elon Musk - pobl fel Stephen Yaxley-Lennon, neu Tommy Robinson.

“Mae'r verified tags wedi eu tynnu oddi ar bobl go iawn, hynny yw, y bobl yn y meysydd gwleidyddol, newyddion, technoleg. Bellach fe all unrhyw un gael y tic glas yna."

Mae Mr Williams hefyd wedi penderfynu gadael yr ap.

“Ro’dd 37,000 o ddilynwyr ‘da fi, o'n i 'di crefftio’r cyfrif yma o'dd yn creu pob math o gynnwys oedd yn cyrraedd bob rhan o’r byd. Ond bellach alla i ddim ymddiried yn y platfform mwyach," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Martha Owen, mae gan gyfryngau cymdeithasol fel TikTok a Instagram fwy o apêl

Mae yna adroddiadau bod rhai Aelodau Seneddol Llafur yn bwriadu dileu eu cyfrifon, gydag un eisoes wedi gwneud hynny.

Ond yn ôl un sy’n gweithio ym maes marchnata digidol sy’n rhedeg rhai o gyfrifon enwogion a chwmnïau yng Nghymru, mae apêl gwefannau eraill hefyd yn chwarae ei ran.

“Mae X ‘di disgyn lawr y rhestr blaenoriaethau. Mae Facebook, Instagram, TikTok, Threads yn bwysicach,” meddai Martha Owen sy’n gweithio i gwmni cyfryngau cymdeithasol, Alaw.

“Mae 'di rhoi teimlad o ansicrwydd i bobl yn sicr."

“Ers y rebrand mae'n teimlo fel bod pethau 'di newid fel platfform - 'da ‘ni erioed wedi gweld y ffasiwn rebrand yn y byd gwefannau cymdeithasol. Roedd y gair 'tweet' yn y geiriadur,” meddai Ms Owen.

“Ma' cynnwys TikTok yn saethu fyny a’r ymgysylltiad yn dod yn lawer rhwyddach yn Gymraeg o gymharu ag X erbyn hyn.”