Syndod Cofis o weld arwydd Cymraeg mewn bwyty yn Prague
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd criw o Gaernarfon syndod o weld arwydd Cymraeg mewn bwyty tra ar eu gwyliau ym mhrifddinas y Weriniaeth Tsiec.
Daeth Dion Jones ar draws yr arwydd yn nhoiled un o fwytai McDonalds yn Prague.
Roedd yr arwydd yn rhybuddio cwsmeriaid i bwyllo rhag ofn bod y llawr yn wlyb ar ôl cael ei lanhau.
"Roedden ni gyd wedi drysu a methu cweit credu'r peth," dywedodd.
Fe dynnodd lun o'i ffrind Tom Oliver yn dal yr arwydd, ac fe gafodd gerydd am wneud hynny gan aelod o staff y bwyty.
Serch hynny, dywedodd Dion fod gweld y Gymraeg mewn lle annisgwyl "werth y 20 Koruna", sydd o gwmpas 66c, bu'n rhaid iddo dalu i ddefnyddio'r tŷ bach.
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
Roedd Dion, 23, Tom, 26, a'u partneriaid Megan a Ffion, y ddwy'n 23, yn Prague i ddathlu'r Flwyddyn Newydd, ac fe wnaethon nhw dreulio diwrnod cyntaf 2025 yn ymweld â rhai o atyniadau'r ddinas
"Roedd un ohonon ni angen tŷ bach ac roedd yr un agosa' yn y McDonald's," dywedodd Dion.
"Nathon ni gerdded lawr y grisia' a nes i jest gweld 'glanhau' yng nhornel fy llygad - roedd rhaid i mi 'neud double take!"
Ychwanegodd Tom: "Nathon ni dynnu llun sydyn ohono fo a ca'l row gan y gweithiwr McDonald's.
"Nath fy ffrind ei holi hi amdano ond nath hi ddim ateb. 'Sa hi ond wedi dallt be oedd o'n ei feddwl i ni."
Roedd yna anfodlonrwydd yng Nghaernarfon yn 2021 wedi i gwmni McDonald's gael hawl i roi arwydd digidol uniaith Saesneg tu allan i'w bwyty yn y dref.
Dywed Dion ei fod wedi dod ar draws y Gymraeg mewn llefydd eraill ar draws y byd.
"Dwi 'di gweld stickers pêl-droed yn Sbaen a'r Canary Islands. Mae'r cwpwl sy'n teithio efo ni wedi bod i Awstralia a de Asia yn y flwyddyn ddiwetha', ac wedi dod ar draws yr iaith mewn lot o wledydd."
Dywed y grŵp nad oes bwriad i ddychwelyd i'r bwyty McDonald's cyn dod adref ar ddiwedd eu gwyliau, ond mae gweld y Gymraeg yno wedi synnu teulu a ffrindiau.
"Da ni wedi rhannu fo efo ein ffrindiau," meddai Dion. "Roeddan nhw'n anghrediniol achos dydi o ddim yn 'wbath fysa chi'n meddwl amdano pan 'da chi dramor."