McDonald's Caernarfon i gael codi arwydd uniaith Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni McDonald's wedi cael hawl i roi arwydd digidol uniaith Saesneg y tu allan i'w fwyty yng Nghaernarfon ar ôl cyflwyno cais cynllunio newydd i Gyngor Gwynedd.
Gwrthodwyd y cais gwreiddiol i osod arwyddion newydd ar gyfer ardal gyrru drwodd y safle fis Mai y llynedd, gan na fydden nhw wedi cydymffurfio â gofynion y cyngor am rai dwyieithog.
Ond mae'r cyngor wedi cymeradwyo'r cais diweddaraf gan ddweud nad ydy'r arwydd, sy'n newid yn gyson i roi gwybodaeth i gwsmeriaid, yn groes i'w bolisïau cynllunio.
Roedd Cyngor Tref Caernarfon hefyd wedi gwrthwynebu'r newid ar safle ble mae mwyafrif yr arwyddion yn Gymraeg a Saesneg, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod yr achos yn amlygu'r angen am hawliau iaith cryfach.
'Mwy o wybodaeth cefndir'
Wrth wrthod y cynigion gwreiddiol y llynedd, dywedodd y cyngor bod "dim ymdrech" i greu arwyddion dwyieithog, yn groes i bolisi iaith y sir.
Ond fe danlinellodd McDonald's gamau sydd eisoes ar waith yn eu bwyty yng Nghaernarfon, gan gynnwys testun Cymraeg yn y mannau talu a chasglu ac arwyddion yn y maes parcio.
Pwysleisiodd mai sgriniau digidol yw'r arwyddion newydd "sy'n dangos cynnyrch sydd ar werth i wella'r lôn gyrru drwodd" a bod y testun yn newid fel bo angen.
Ychwanegodd bod modd i gwsmeriaid archebu bwyd mewn sawl iaith tu mewn i'r bwyty, a bod y cwmni'n "falch bod hyn wedi galluogi'r cyhoedd i archebu yn Gymraeg".
Mae'r cyngor tref yn dal i ddadlau bod angen i bob arwydd fod yn ddwyieithog, gyda'r Gymraeg uwchben y Saesneg.
Ond dywed swyddogion cynllunio bod McDonalds wedi rhoi digon o wybodaeth cefndir y tro hwn i gyfiawnhau diffyg Cymraeg ar y byrddau digidol.
Dywedodd Cyngor Gwynedd: "Gwrthodwyd cais gan y cwmni fis Tachwedd diwethaf i osod pedwar arwydd digidol a sgrin bwth digidol yng Nghaernarfon.
"Roedd hynny oherwydd y byddai'r cynnig wedi cynnwys arwyddion Saesneg yn unig yn hytrach nag arwyddion Cymraeg a Saesneg, a fyddai wedi bod yn groes i bolisïau cynllunio lleol.
"Mae cais diweddaraf y cwmni'n cynnwys amrywiaeth o arwyddion a fydd yn ddwyieithog ac un arwydd electroneg a fydd yn Saesneg, gyda gwybodaeth sy'n gallu cael ei addasu'n rheolaidd.
"Ar ôl ystyried y cais yn fanwl, a'r ffaith y gellir newid y wybodaeth ar yr un arwydd electroneg yma'n rheolaidd, penderfynodd y Gwasanaeth Cynllunio nad ydy'r cais yn torri'r polisïau cynllunio perthnasol."
Ychwanegodd y datganiad: "Mae'r cyngor wedi gwneud hi'n glir y byddai'n fodlon cefnogi unrhyw ymdrechion gan y cwmni i gyfieithu testun ar gyfer eu harwyddion ar gyfer y safle."
'Dim esgus'
Mewn ymateb i'r penderfyniad, dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Os ydy McDonald's o ddifri' ynghylch parchu'r iaith a'i gwsmeriaid Cymraeg, dylai ddarparu arwyddion dwyieithog llawn ymhob safle a chynnig gwasanaeth Cymraeg llawn i gwsmeriaid.
"Gall McDonald's fwy na fforddio sicrhau bod ei holl arwyddion a pheiriannau ar gael yn Gymraeg.
"Mae diffyg Cymraeg yn y sector preifat yn broblem enfawr. Rhaid cael hawliau iaith cryfach ac mae'n rhaid ehangu'r safonau iaith i'r sector preifat.
"Dydy datblygiadau technolegol ddim yn esgus am ddiffyg Cymraeg gweledol yn unrhyw le, gan gynnwys yn y sector preifat."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021