Dyn o Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain rali yn yr Alban

Bu farw Dai Roberts, cyd-yrrwr y car rali, yn 39 mlwydd oed yn y fan a'r lle
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerfyrddin wedi marw mewn damwain rali yn yr Alban.
Bu farw Dai Roberts, cyd-yrrwr y car, yn 39 mlwydd oed yn y fan a'r lle
Cafodd gyrrwr y car, James Williams, 27, o Gastellnewydd Emlyn, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Caeredin gydag anafiadau difrifol - ond nid rhai sy'n peryglu ei fywyd.
Mae trefnwyr Rali Jim Clark wedi canslo gweddill y digwyddiad yn ogystal â'r rali oedd wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sul.
Dywedodd Heddlu'r Alban na chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y ddamwain.
Goroesodd Mr Roberts ddamwain flaenorol yn Rali Ulster yn 2014, pryd fu farw'r gyrrwr 20 oed, Timothy Cathcart.
Bu farw ei frawd Gareth yn cystadlu mewn rali yn Sisili ym Mehefin 2012.
Dywedodd tîm James Williams, gyrrwr y car, "gyda chalon drom, mae'n rhaid i ni rannu'r newyddion trist hyn y prynhawn yma."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Vincent Fisher fod "ein meddyliau gyda theulu'r dyn sydd wedi marw ac mae ymholiadau'n parhau i sefydlu'r amgylchiadau llawn."
Mae Motorsport UK wedi dweud y bydden nhw'n cychwyn ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad, a'u bod am "weithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiad Rali Jim Clark a Chlwb Moduro Coffa Jim Clark," ac y bydden nhw'n cydweithredu gyda'r awdurdodau perthnasol.

Cafodd James Williams ei gludo i Ysbyty Brenhinol Caeredin gydag anafiadau difrifol - ond nid rhai sy'n peryglu ei fywyd
Dywedodd tîm James Williams fod y "gymuned foduro yn drist iawn o glywed am farwolaeth ein hannwyl Dai Roberts."
"Mae James wedi cael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Caeredin gydag anafiadau difrifol - ond nid rhai sy'n bygwth bywyd.
"Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu Roberts yn yr amser anodd hwn.
"Byddwn yn darparu diweddariadau pan fyddwn yn eu derbyn. Plîs parchwch breifatrwydd y teuluoedd a'r tîm yn yr amser hwn."

Mae trefnwyr Rali Jim Clark wedi canslo gweddill y digwyddiad
Buodd Mr Roberts yn cystadlu mewn ralïau yn ôl mor bell â 2003, pan oedd yn gyd-yrrwr i'w dad.
Mewn datganiad dywedodd Pencampwriaeth Rali Asphalt Protyre Motorsport Uk eu bod nhw "mewn sioc" ac wedi torri'u calonnau.
"Rydyn ni i gyd yn caru ralio, ond doedd neb yn caru'r gamp yn fwy na Dai Roberts," mae'n darllen.
"Roedd yn gystadleuydd eithriadol, ac yn ogystal â bod yn bencampwr cyd-yrrwr Protyre Asphalt 2022 roedd Dai yn hynod gystadleuol y tu ôl i olwyn ei Peugeot 205 GTi.
"Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Tra bod y gymuned rali yn ceisio dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd, dymunwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Dai, a dymuno gwellhad llwyr a buan i James Williams."