Teyrnged rali i yrrwr ifanc fu farw

  • Cyhoeddwyd
Gareth RobertsFfynhonnell y llun, IRC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Roberts yn gyd-yrrwr i Craig Breen pan fu farw mewn damwain yn yr Eidal ym mis Mehefin

Mae cystadleuaeth ralïo fwyaf Cymru yn bwriadu talu teyrnged i yrrwr ifanc fu farw yn gynharach eleni mewn cystadleuaeth yn yr Eidal.

Roedd Gareth Roberts, 24 oed o Gaerfyrddin, yn gyd-yrrwr yn y Targa Florio Internazionale di Sicilia pan fu'r car yr oedd yn teithio ynddo mewn damwain.

Dywed trefnwyr y Wales Rally GB, rownd Prydain o Bencampwriaeth y Byd, wedi cyhoeddi y bydd un o brif wobrau'r gystadleuaeth yn cael ei hail enwi er cof amdano.

Mae Tlws Croeso'r gystadleuaeth wedi cael ei gyflwyno i'r tîm gorau o Gymru yn y ras ers 1969.

Yn 2008, enillodd Gareth Roberts y tlws pan oedd yn gyd-yrrwr i Gwyndaf Evans, ac ers hynny bu trefnwyr y rali yn gweithio gyda Gareth i hybu'r digwyddiad a ralïo yng Nghymru.

Fel cydnabyddiaeth o'i waith, ac i gofio am yrrwr ifanc talentog, bydd y tlws nawr yn cael ei adnabod fel Tlws Croeso er cof am Gareth Roberts.

'Anrhydedd'

Dywedodd Andrew Coe, prif weithredwr Wales Rally GB: "Roedd Gareth Roberts yn gyd-yrrwr gwych ac yn un o sêr y dyfodol ym myd ralïo rhyngwladol.

"Roedd hi'n amlwg pa mor bwysig oedd cystadlu ac ennill yng Nghymru iddo, ac roedd yn benderfyniad hawdd i ail-enwi'r tlws yr oedd Gareth mor falch o'i ennill yn 2008."

Dywedodd teulu Gareth Roberts: "Mae'n anrhydedd i gael enwi'r tlws ar ôl Gareth.

"Enillodd ei bencampwriaeth byd (Academi WRC i yrwyr ifanc) yng Nghymru ac roedd yn falch iawn o'i Gymreictod. Fe fyddai wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o gynllun i hybu gyrwyr ifanc o Gymru ym mhencampwriaeth y byd."

Bydd Wales Rally GB 2012 yn dechrau gyda digwyddiad arbennig yn Llandudno nos Iau ac yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul.