Arlunydd am i orielau arddangos 'lluniau gonest' o fywyd
- Cyhoeddwyd
Mae arlunydd, a gafodd blentyndod o fyw mewn tlodi, am i'r "byd celf fod yn fwy cynhwysol a hygyrch".
Cafodd yr artist Natalie Chapman ei magu mewn tŷ cyngor, roedd hi'n derbyn prydau am ddim ac roedd un rhiant i mewn ac allan o ganolfan adfer (rehabilitation).
"Pan o'n i'n fach iawn, dwi'n cofio ffrindiau yn dweud pethau fel 'mae mam yn dweud bod ni ddim yn cael chwarae efo ti achos ti'n hipi a ti methu dod rownd i'n tŷ ni'," meddai.
Mae hi wedi troi atgofion ei phlentyndod yn gasgliad o baentiadau o bortreadau beiddgar, hunangofiannol – “Yr holl straeon na allwn i byth eu dweud".
“Mae fy ngwaith i yn autobiographical, dwi’n creu lluniau am bethau fel iechyd meddwl a tyfu lan mewn tŷ cyngor. Dwi’n hoffi dweud y straeon ti byth yn ei weld ar waliau galleries."
Mae am weld orielau yn dangos mwy o waith heriol ar eu waliau.
“Dwi’n teimlo bod e’n anodd iawn os ti’n creu gwaith sydd bach yn wahanol neu sy’n dweud rhywbeth sydd, ambell waith, yn teimlo’n uncomfortable.
"Mae fe’n anodd cael lle ar y wal i ddweud straeon fel’na."
Mae hi'n gobeithio y bydd pobl yn adnabod eu hunain yn ei chelf ac mae eisiau iddo danio sgwrs.
“Popeth fi’n 'neud ydi pethe dwi 'di bod trwyddo, a fi mo'yn i pawb weld nid jyst storis fi yw e ond falle bydd pawb yn gweld rhywbeth maen nhw wedi bod trwyddo, yn fy ngwaith.”
Cartref cariadus ond arian yn brin iawn
Cafodd Natalie, 43, ei magu yn bennaf ar arfordir Ceredigion yng nghanolbarth Cymru, gyda rhieni "cariadus iawn, iawn" ond roedd arian yn brin, roedd ei phresenoldeb yn yr ysgol yn achlysurol ac roedd caethiwed cyffuriau ei diweddar dad yn golygu ei fod i mewn ac allan o ganolfan adfer.
Cyn cael tŷ cymdeithasol ar ddechrau'r '80au, roedd y teulu'n byw mewn tŷ heb drydan, gan ddefnyddio lampau paraffin ar gyfer golau.
Yn ddiweddarach, prynodd y teulu mawr fwthyn un ystafell wely lle roeddent i gyd yn byw mewn un ystafell cyn iddo gael ei adfeddiannu.
Fel merch ifanc yn ei harddegau, cymerodd Natalie ran mewn rhaglen gyfnewid Ffrengig ond ar ôl dychwelyd adref, ysgrifennodd y fyfyrwraig Ffrengig ati yn awgrymu nad oedd hi'n mynd i fod yn aros gyda'i theulu pan ddaeth i Gymru.
Pan ofynnodd i athrawes am y peth, dywedodd, o flaen pawb, “'Da ni wedi penderfynu bod dy deulu di ddim yn addas, felly fydd hi ddim yn dod i aros gyda chi'," meddai Natalie.
Yn hytrach fe arhosodd y myfyriwr gyda phlentyn o "deulu mwy ariannog", meddai.
"Fe wnaeth e gyfleu i mi ‘dwi ddim yn haeddu'r cyfle yma' a dwi'n meddwl bod cymaint o sefyllfaoedd a senarios yn dal i fodoli mewn gwirionedd, dyw llawer o'r pethau yna ddim wedi newid."
Mae Natalie yn teimlo bod yr un agwedd i’w gweld heddiw tuag at bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol.
Roedd aelod o'r teulu wedi postio ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod yn chwilio am rywun i gyfnewid tŷ cyngor gyda hi gan ei bod yn chwilio am fwy o le a chafodd lwyth o ymatebion negyddol.
"Roedd e fel 'mae gen ti dŷ cyngor, dylet ti fod yn ddiolchgar'," meddai Natalie.
"Mae bron fel nad ydych chi'n cael dymuno gwella eich hun ac mae pethau'n cael eu hadeiladu i'ch cadw chi yno."
‘Petaet ti mond yn pobi cacennau a finna’n mynd i’r ysgol’ ydi enw un o’i phaentiadau ac mae'n darlunio fersiwn ifanc o Natalie yn ystafell wely ei phlentyndod.
"Dwi'n cofio eisiau'r pethau yna pan o'n i yr oedran yna," meddai Natalie, “a dwi’n cofio meddwl, 'Duw, pam nad yw fy mam yn gwisgo ffedog ac yn gwneud sgons?," chwarddodd hi.
"Roedd pwysau'r byd tu allan yn treiddio i mewn... ond doedd hi ddim yn gwneud sgons achos doedd dim arian gyda ni i bobi a do'n i ddim yn mynd i'r ysgol achos do'n i ddim yn teimlo mod i'n cael fy meithrin yno a doeddwn i ddim yn teimlo bod lle deche i fi yno."
Un arall o'i phaentiadau yw 'Club Tropicana dreams' ac mae am “ berthynas fi a fy mam mewn rhyw ffordd" ac mae hefyd yn gyfeiriad at gân Wham! ‘Club Tropicana’.
"Mae breuddwydion yn bwysig ac os byddwch chi'n colli eich breuddwydion, rydych chi ar goll," meddai.
"Pan chi'n gorfod meddwl o ble mae'ch pryd nesaf chi'n dod, sut chi'n mynd i oroesi wythnos nesa' tan bod eich taliad nesa'n dod trwyddo, allwch chi fforddio rhedeg car... Rydych chi'n anghofio sut rydych chi am i'ch bywyd fod neu sut roeddech chi eisiau iddo deimlo.”
Dywedodd Natalie ei bod wedi gallu profi celf yn blentyn oherwydd dyn o'r enw Chris Robertson oedd â bws ac a fyddai'n ei chodi hi a phlant eraill oedd yn byw mewn amgylchiadau anodd ac yn mynd â nhw i wneud gweithgareddau celfyddydol.
Yn 16 oed gadawodd yr ysgol heb fawr o gymwysterau TGAU.
Bu'n gweithio mewn cartref gofal a thafarn nes ei bod yn 19 oed, yna cafodd dai Lefel A mewn coleg addysg bellach cyn cael yr hynaf o'i phedwar o blant, sydd bellach yn 22, 17, 14 a 6 oed.
Roedd Natalie yn ei 30au cyn yr aeth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle enillodd radd mewn Celfyddyd Gain.
Ar y pryd roedd hi'n rhiant sengl gyda thri o blant o dan chwech oed.
"Roedd fy ffrind, oedd yn byw mewn tŷ cyngor yr ochr arall i'r stad i mi, wedi dweud 'fe edrycha i ar ôl y plant i ti'," meddai.
Mae ei darlun ‘Sink or Swim’ yn ddarlun ohoni hi a'i ffrind gorau a wnaeth sicrhau bod Natalie wedi gallu ennill ei gradd.
'Dyfalbarhad llwyr'
Heddiw mae Natalie yn gwneud ei bywoliaeth yn gwerthu ei chelf ar-lein, yn dysgu ac yn fframio yn Oriel Gwyn yn Aberaeron.
Ei sioe bresennol, sydd yn Oriel Gelf Canfas yn Aberteifi yng Ngheredigion tan 30 Tachwedd, yw ei nawfed arddangosfa unigol.
Dywedodd bod ei gyrfa wedi dibynnu ar "ddyfalbarhad llwyr".
Gan ddefnyddio ei hystafell fyw fel stiwdio, mae'n creu ei phaentiadau gan ddefnyddio hen luniau sy'n "cael eu hailddychmygu" gan ddefnyddio siarcol ac acrylig ac ambell waith cyfryngau cymysg fel paent chwistrellu a phasteli.
Mae Natalie yn dweud ei bod yn cael ei hysbrydoli gan artistiaid megis Frida Kahlo, Tracy Emin a Sarah Lucas: “Pobl sy’n onest gyda’u straeon nhw, pobl sy’n dweud straeon nhw, pobl sydd falle bach yn challenging ac sy’n creu rhyw fath o atmosphere gyda gwaith. “
Mae’i gwaith wedi cael ei arddangos yn MOMA, Machynlleth, yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, ac wedi derbyn sawl enwebiad am wobrau.
Celf yn 'hobïau drud i'r cyfoethog'
Mae Natalie am "wneud y byd celf yn fwy cynhwysol a hygyrch" ac mae'n gweithio i elusen sy'n cynnig dosbarthiadau celf a cherddoriaeth am ddim i bobl ifanc 11 i 19 oed.
Un ffordd o gyflawni hyn, yn ei barn hi, yw sicrhau bod pob ysgol yn cynnig cyfle i blant astudio pynciau creadigol, fel cerddoriaeth, tecstilau a drama, yn yr ysgol.
"Mae'r celfyddydau wedi dod yn hobïau drud i'r cyfoethog pan ddylai fod ar gael i bawb," meddai.
Mae hi hefyd eisiau gweld mwy o orielau'n cymryd risg o ran y celf maen nhw'n ei ddangos.
“Mae nhw’n hapus iawn i roi rhywbeth fel landscapes ac ati, ond mae pawb bach yn nerfus am rhoi lan unrhywbeth arall,” meddai.
Mae Natalie yn teimlo bod “lle i bawb, a mae rhaid i chi roi straeon pawb ar y wal. Achos wedyn os oes rhywun yn dod i mewn i’w oriel, mae nhw’n gallu dweud ‘ oce, dwi’n gallu gweld stori fi yn fanna'.
"Os di popeth yr un peth, mae e just bach yn exclusive. Mae rhai yn teimlo ‘sai’n siŵr os fi fod mewn fan hyn, ddim yn teimlo bod e’n lle i fi’.
"Mae 'na lot o dlodi yng Nghymru, mae 'na lot o straeon sydd ddim yn cael eu hadrodd ar waliau orielau," meddai.
"Pwy well i gael straeon diddorol am eu bywydau na phobl sydd wedi mynd trwy bethau? I mi y peth mwyaf diddorol yw pobl sy'n wynebu heriau ac yn dod drwyddynt, dyna lle mae cyfoeth bywyd."