Nifer yn rhannu pryderon am gynlluniau hen chwarel Caernarfon

Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 70 o bobl i'r cyfarfod yng Nghlwb Rygbi Caernarfon nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Daeth tua 70 o bobl ynghyd nos Fawrth i rannu eu pryderon ynglŷn â chynlluniau i godi gorsaf nwy a sefydlu gweithfeydd malu concrit yng Nghaernarfon.

Bwriad cwmni Jones Brothers o Rhuthun ydy adeiladu ar hen safle Chwarel Seiont yn y dref.

Mae'r cwmni yn dilyn y broses o sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer gorsaf nwy 20MW, fyddai'n cyflenwi'r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr.

Yn ôl ymgyrchwyr o grŵp Caernarfon Lân, mae pryderon dros lygredd aer, sŵn a thraffig, yn ogystal â'r effaith ar ymdrechion i leihau newid hinsawdd.

Dywed y cwmni bod yna gamau i leddfu ofnau gwrthwynebwyr a tharfu "cyn lleied â phosibl" ar drigolion lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Smethurst yn "poeni am yr effaith ar y gymuned ac ar yr amgylchedd"

Mae Hannah Smethurst, sy’n byw yn lleol, yn pryderu am y cynlluniau.

"Dwi’n poeni am yr effaith ar y gymuned ac ar yr amgylchedd," meddai.

“Mae o mor agos at dai a’r gymuned yma, mae 'na barc yma a lot o fywyd gwyllt felly mi fydd yn cael niwed enfawr ar y llefydd yma ac ar les pobl.”

Un arall oedd yn y cyfarfod heno oedd Myfanwy, sydd byw yn lleol.

Dywedodd hi: “Mae 'na arogleuon a sŵn am ddod o’r safle, dwi’m yn meddwl fod hynny’n iach yn enwedig gyda Ysbyty Eryri gerllaw.

“Dwi 'di clywed na dim ond ryw un fydd yn gweithio yn y safle nwy, felly dwi’m yn meddwl fydd 'na swyddi yno.

"Mae ‘na le i blant chwarae yma, fydd hi’m yn iach i’r plant fod allan yn chwarae yma a dim jest y parc, mae’r cae rygbi hefyd… dwi’m yn cyd-fynd efo fo fy hun.”

Disgrifiad,

Ar Dros Frecwast fore Mawrth bu Mari Williams yn amlinellu pryderon ymgyrchwyr

Wrth amlinellu'r rhesymau dros wrthwynebu ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o drefnwyr y cyfarfod, Mari Williams bod y lleoliad yn "hollol amhriodol" ar gyfer y cynlluniau.

Mae stad fawr o dai, maes clwb rygbi'r dref, parc ac afon ar gyrion y safle, yn ogystal ag Ysbyty Eryri sydd "ond rhyw 200 metr o'r safle".

Yn ogystal â phryder ynghylch allyriadau posib a llwch yn yr aer, mae yna boeni wedi i'r cwmni ddatgan yn eu cynlluniau y gallai hyd at 120 o lorïau deithio i ac o'r safle bod diwrnod.

Mae hynny, medd Ms Williams, yn cyfateb i "un lori bob pum munud am 10 awr y diwrnod, pump a hanner diwrnod yr wythnos".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd gweld cyn-weithfeydd brics Seiont o ffordd osgoi newydd Caernarfon

Gan ddadlau dros ddatblygu ynni adnewyddadwy yn hytrach, dywedodd na fyddai'r orsaf nwy yn creu gwaith gan ei fod yn "unmanned".

Does dim sicrwydd hyd yn hyn, meddai, a fydd y swyddi ar gyfer y gwaith malu concrit - hyd at 15, medd y cwmni - yn rhai newydd ynteu'n swyddi sydd wedi eu trosglwyddo.

Ychwanegodd bod nifer y swyddi, beth bynnag, "ddim yn llawer pan 'dach chi'n meddwl am y risgia' sylweddol i iechyd a lles pobl a'r amgylchedd".

Fe gollodd 50 o weithwyr eu swyddi pan gaeodd hen waith brics Seiont yn 2008, gan ddod â bron i 200 mlynedd o gynhyrchu brics yng Nghaernarfon i ben.

Ond fe ail-agorwyd y cyn-chwarel yn y blynyddoedd diweddar pan gafodd ddefnydd newydd fel compownd ar gyfer y gwaith o adeiladu ffordd osgoi Caernarfon.

Bellach mae cwmni Jones Brothers yn y broses o geisio sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad ar y safle.

Gan ddefnyddio’r nwy oedd yn arfer cyflenwi’r gwaith brics, byddai'r orsaf 10 injan 20MW yn cyflenwi trydan a'i werthu i'r Grid Cenedlaethol yn ystod cyfnodau o alw mawr.

Yn y dogfennau cynllunio dywed y cwmni bod disgwyl y bydd angen hyd at 15 o staff, ac y byddai "defnydd parhaol o'r safle hefyd yn cefnogi swyddi anuniongyrchol yn lleol".

Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd yr hen waith brics ar y safle yn 2008

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Brothers y byddai'r cynllun cynhyrchu trydan wrth gefn "yn sicrhau fod trigolion a busnesau lleol yn derbyn cyflenwad trydan ar adegau pan na ellir cwrdd â'r galw am drydan o ffynonellau adnewyddadwy neu orsafoedd llosgi nwy".

Pwysleisiodd na fyddai "newid arwyddocaol i olwg safle Chwarel Seiont", ac na fyddai sŵn yr offer "yn ddim mwy na'r sŵn 'cefndir' presennol".

Dywedodd hefyd na fyddai effaith ar fioamrywiaeth yr ardal, a bod disgwyl y bydd allyriadau o'r orsaf "yn cyfateb i lai nag 1% o'r terfynau... ar gyfer ocsidau nitrogen yn yr awyr".

Pynciau cysylltiedig