Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru

babiFfynhonnell y llun, Getty
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2022.

Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru yn 2022.

Enwau'r merched (a'r nifer)

1. Mali (88)

2. Erin (74)

3. Seren (59)

4. Eira (51)

5. Mabli (48)

6. Alys (46)

7. Ffion (46)

8. Cadi (40)

9. Efa (38)

10. Lili (36)

Mali yw'r 15fed enw ar y rhestr gan ddod yn fwy poblogaidd na'r enw Erin a ddaeth i frig y rhestr o enwau Cymreig yn 2021.

Yr enwau Cymreig eraill sydd ar y rhestr yw Megan, Elin, Eleri a Nansi.

Olivia oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru yn 2022, gyda 145 o ferched bach yn cael eu henwi'n Olivia.

Nansi oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Ngwynedd, Amelia yng Nghaerdydd ac Isla yn sir Gaerfyrddin.

Enwau'r bechgyn (a'r nifer)

1. Arthur (180)

2. Osian (138)

3. Jacob (127)

4. Elis (100)

5. Harri (95)

6. Isaac (90)

7. Jac (86)

8. Dylan (78)

9. Macsen (75)

10. Tomos (60)

61. Caleb 52

Arthur oedd yr enw Cymreig fwyaf poblogaidd ar fechgyn gan fod y 4ydd enw mwyaf poblogaidd allan o 100. Arthur oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar restr 2021 hefyd.

Hefyd yn ymddangos ar y rhestr mae'r enwau Cymreig yma: Ioan, Tomi, Cai, Idris, Rhys ac Owen.

Y tri enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a anwyd yng Nghymru yn 2022 yw Noah, Theo ac Oliver.

Jac oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a anwyd yng Ngwynedd, tra roedd Noah yn boblogaidd yng Nghaerdydd.

Pynciau cysylltiedig