'Rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc gafodd ataliad ar y galon wedi galw am wneud hi’n orfodol i bob ysgol yng Nghymru gael diffibriliwr, fel yn ysgolion Lloegr.
Yn ôl Steffan Howells, sydd bellach yn lysgennad i elusen Calon Hearts Cymru, gallai cael un wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yng Nghymru gofnod o ba ysgolion sydd â’r dyfeisiau achub bywyd.
O’r rheini sydd â chofnod mae’n ddarlun cymysg - gyda'r nifer ar ei uchaf yng Nghaerffili lle mae gan 97% o ysgolion ddiffibrilwyr, ac ar ei isaf yn Sir Gaerfyrddin lle mae diffibrilwyr mewn 15% o ysgolion y sir.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig diffibriliwr” a’u bod yn gweithio i gynyddu’r nifer mewn cymunedau.
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
Yn 2022 ac yntau’n 26 mlwydd oed cafodd Steffan Howells ataliad ar y galon tra’n chwarae rygbi yng Nghaerdydd.
“Ma’ fe’n duedd i feddwl bod o’n digwydd lot yn fwy i bobl hyn, ond fi’n dyst bod pobl sydd dan 30 oed hefyd yn gallu cael ataliad," meddai.
“Ma’ rhan fwyaf y boblogaeth ifanc mewn ysgolion felly pe bai rywbeth yn digwydd mewn ysgol a bod ddim defib yno, yna bydde ti’n colli bywyd heb isie.
“Dylse ni ddim bod mewn sefyllfa lle ni’n aros i rywbeth fel hyn ddigwydd er mwyn neud newid, dylse fe fod yn ddeddf fod peiriannau fel hyn yn angenrheidiol mewn ysgolion.”
'Edrych i'r dyfodol'
Gall diffibriliwr gynyddu’r siawns o oroesi o hyd at 70% os yw’n cael ei ddefnyddio o fewn pum munud o ataliad ar y galon.
Yn ôl, Dr Gethin Ellis, sy’n ymgynghorydd cardioleg, mae’n “gwneud synnwyr” i gael diffibriliwr mewn llefydd lle mae pobl yn ymgasglu fel ysgolion.
“Dwi’n meddwl fod o’n neud synnwyr i gael diffibriliwr ym mhob man mae pobl yn casglu," meddai.
“Yn anffodus be ‘'da chi’n tueddu i ffeindio ydy bod y diffibrilwyr yn cael eu rhoi mewn ysgolion lle ma’ 'na drasiedi wedi bod.
“Dylsa ni edrych i’r dyfodol a rhoi diffibrilwyr yn ein hysgolion i gyd yng Nghymru.”
Mae rhai ysgolion wedi mynd ati i godi arian i brynu diffibrilwyr.
Er bod gan Ysgol Bro Teifi ddiffibriliwr, trefnwyd taith gerdded yn ddiweddar gan aelodau'r chweched dosbarth i gael ail ddyfais yn adran chwaraeon yr ysgol.
Dywedodd Jano Evans, disgybl yn Ysgol Bro Teifi: “Ni wedi clywed sawl stori sy’n agos i adre. Ma’ gyda ni un yn y dderbynfa ond o’n i’n gweld e’n rhy bell a bod lot o glybiau’n iwsio’r adran chwaraeon dros y penwythnos ac ar ôl ysgol a bod isie fe gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio fe.
“Falle dyle fe fod yn rhywbeth sydd yn orfodol yng Nghymru, achos falle dyw lot o bobl ddim yn y sefyllfa i godi’r arian fel i ni’n neud, a ni wedi gweld e’n her i godi’r £1500 sydd eisiau.”
Ychwanegodd Hanna Evans, disgybl arall yn Ysgol Bro Teifi: “Chi ddim yn gwybod pryd ma’ fe mynd i ddigwydd, pryd ma’ angen un arnoch chi.
"A chi ddim moyn bod yn y sefyllfa na pam ma’ ddim 'da chi un, felly fi’n credu bydde fe’n bwysig i bob un (ysgol) gael un yn rhywle."
Canran ysgolion Cymru sydd â diffibrilwyr
15% Sir Gaerfyrddin
39% Powys
43% Rhondda Cynon Taf
52% Blaenau Gwent
61% Sir Fynwy
73% Merthyr Tudful
87% Sir Ddinbych
97% Caerffili
*Dim cofnod o ysgolion sydd â diffibrilwyr gan weddill awdurdodau lleol Cymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am “wneud hi’n orfodol i ysgolion gael diffibriliwr ar bob safle”, fel yn Lloegr.
Dyna hefyd alwad y Ceidwadwyr sydd am weld Llywodraeth Cymru yn “mynd i’r afael â hyn ar frys”.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i alluogi cymunedau i gael diffibrilwyr sy'n hygyrch i'r cyhoedd, ac mae pob ysgol uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth wedi cael cynnig un.
"Mae rhaglen Achub Bywydau Cymru y GIG yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, meysydd chwaraeon, a sefydliadau'r sector cyhoeddus i gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r rhaglen hefyd yn sicrhau bod y dyfeisiau'n cael eu cofrestru fel bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwybod ble maen nhw."